Arwr y gêm heb unrhyw amheuaeth - Scott Sinclair a sgoriodd hatric i Abertawe
Mae disgwyl y bydd miloedd o bobl Abertawe allan ar strydoedd y ddinas heno (nos Fawrth) i longyfarch eu harwyr pêl-droed.
Fe fydd y chwaraewyr yn dathlu eu dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr gyda thaith mewn bws agored o amgylch y ddinas, gan gychwyn o’u hen gae, y Vetch am 6.30.
Yn un o’r gemau pêl-droed mwyaf cyffrous erioed yn hanes y clwb, llwyddodd yr Elyrch i guro Reading o 4-2 yn Wembley brynhawn ddoe, pryd y llwyddodd Scott Sinclair i sgorio hatric.
‘Anhygoel o gyffrous’
“Roedd hi’n gêm anhygoel o gyffrous, yn enwedig drwy fod cymaint yn y fantol,” meddai Owain Pennar, un o gefnogwyr Abertawe a welodd y gêm yn Wembley.
Dywedodd nad oedd yn teimlo’n gwbl hyderus o’r fuddugoliaeth hyd nes i Scott Sinclair sgorio’i drydedd gôl ddeng munud cyn y diwedd.
“Rhaid cydnabod bod Reading wedi chwarae’n dda iawn, ac ro’n i’n pryderu ychydig o weld y dyrfa’n dechrau dathlu ychydig yn rhy gynnar at ddiwedd yr hanner cyntaf,” meddai.
“Ro’n i’n gweld bod gan Reading lawer i’w gynnig o hyd a bod ganddyn nhw hanner y gêm ar ôl. Ac wrth gwrs, dyna a welson ni yn nechrau’r ail hanner.”
Fel dyn sydd wedi ei eni a’i fagu yn Abertawe ac wedi cefnogi’r Elyrch ers blynyddoedd maith, mae Owain Pennar wedi bod yn dyst i newid syfrdanol yn eu hynt a’u helynt yn ddiweddar.
“Wyth mlynedd yn ôl, yn 2003, roedd yn rhaid inni ennill er mwyn cael aros yn y gynghrair,” meddai.
“Bryd hynny, fe wnaethon ni ennill 4-2 gyda hatric gan James Thomas. A heddiw, mae hatric gan Scott Sinclair a buddugoliaeth 4-2 arall wedi ennill lle inni yn yr Uwch Gynghrair.
‘Diwrnod gwych’
“Dw i wedi cael diwrnod gwych, ac mae’r canlyniad yn newyddion rhagorol i Abertawe ac i weddill Cymru.
“Efallai y cawson ni elfen o lwc yn y gêm heddiw, ond fel y tîm a oedd yn drydydd yn y gynghrair, dw i’n credu y bydd pawb yn cydnabod ein bod ni’n haeddu cael dyrchafiad.
“Dw i’n credu y gall chwarae yn yr Uwch Gynghrair fod yn hwb gwirioneddol i ddinas fach fel Abertawe sydd wedi dioddef llawer o ddirwasgiad a diffyg buddsoddi ynddi dros yr hanner canrif ddiwethaf.”
Llongyfarch
Un o’r rhai cyntaf i longyfarch Abertawe oedd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
“Mae’n newyddion gwych y bydd gan Gymru dîm pêl-droed yn chwarae ar y lefel uchaf am y tro cyntaf ers degawdau,” meddai.
“Fe fydd y llwyddiant ffantastig yma’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o godi proffil Abertawe a Chymru’n uwch eto ym Mhrydain a’r byd tu allan.”
90 munud llawn cyffro
Fe ddechreuodd y gêm gydag Abertawe o dan gryn bwysau yn ystod y chwarter cyntaf. Ond newidiodd pethau’n llwyr ar ôl i Scott Sinclair sgorio dwy gôl o fewn llai na dau funud i’w gilydd tua chanol yr hanner cyntaf.
Llwyddodd i rwydo’r gyntaf yn hollol hunanfeddiannol mewn cic o’r smotyn, ac wedi rhediad gwych gan Dobbie, roedd Abertawe’n ôl wrth linell gôl Reading o fewn munud. Unwaith eto, llithrodd Sinclair y bêl i’r gôl o ongl dynn.
Cadwodd Abertawe reolaeth ar y gêm am yr ugain munud nesaf, ac ychydig funudau cyn hanner amser, sgoriodd Dobbie gôl, gan wneud y sgôr yn 3-0 i Abertawe erbyn hanner amser.
Er bod Brendan Rodgers yn hapus iawn gyda’r sefyllfa, siarsodd ei dîm i beidio â bod yn rhy hyderus, gan eu hatgoffa bod 45 yn amser hir mewn pêl-droed.
Reading yn taro’n ôl
O fewn tri munud i gychwyn yr ail hanner, profodd ei rybudd i fod yn gywir, gan i Reading daro’n ôl wrth i Hunt sgorio gôl. Ac i wneud pethau’n waeth, peniodd Matt Mills y bêl i’r rhwyd wyth munud yn ddiweddarach i wneud y sgôr yn 3-2.
Ar ôl awr, roedd Abertawe’n ymddangos o dan bwysau cynyddol. Roedd Reading wedi cael 13 cic gornel o gymharu â dim un i Abertawe. Roedd lluniau ar y teledu o gadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, yn edrych fel petai pwysau’r byd ar ei ysgwyddau.
Wedyn, gydag ychydig dros ddeng munud i fynd cyn y diwedd, daeth Scott Sinclair i’r adwy unwaith eto a sgorio’i drydedd gôl mewn cic o’r smotyn gan gynyddu mantais Abertawe i 4-2.
Roedd cefnogwyr Abertawe’n canu unwaith eto, er bod pawb yn dal eu gwynt at y chwiban olaf.