Fe fydd llefarydd Plaid Cymru ar ddarlledu’n ceisio cael dadl frys yn y Cynulliad ar ddyfodol BBC Cymru.

Dywed Bethan Jenkins, AC rhanbarthol dros dde-orllewin Cymru, y bydd toriadau o 20% yn incwm y BBC yn arwain at ddirywiad sylweddol yn y gwasanaeth i wylwyr a gwrandawyr Cymru.

“Rhaid edrych yn fanwl ar sut y bydd hyn yn effeithio ar Gymru ac ar ddyfodol darlledu yn y Gymraeg,” meddai Bethan Jenkins ar ei blog. “Ni allwn eistedd yn ôl ac aros i raglennu yng Nghymru gael ei rwygo’n ddarnau.

“Rydym eisoes wedi gweld gostyngiad gwasanaethau ar ITV Cymru a’r bygythiad i S4C. Mae cyfryngau print hefyd yn dirywio, ac felly mae’n rhaid i’r mater hwn cael ei drin fel mater o frys.”

Yn ogystal a galw am ddadl frys, mae Bethan Jenkins yn bwriadu at y BBC ac at Jeremy Hunt i fynegi ei phryderon.

“Dylem edrych ar rhwymedigaethau y BBC o fewn y siarter rhwng y BBC a’r Ysgrifennydd Gwladol. Beth sy’n digwydd os yw e’n cael ei dorri? A yw’n cael ei ail negodi gyda’r Ysgrifennydd Gwladol? Mae hwn yn faes yr wyf wedi ymrwymo i edrych i mewn i fel llefarydd Plaid Cymru ar hyn yn y Cynulliad.”