Dave Jones
Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi terfynu cytundeb y rheolwr Dave Jones.

Methodd yr Adar Glas ag ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair am yr ail flwyddyn yn olynol eleni, ac mae’r bwrdd wedi penderfynu bod yn bryd i Dave Jones fynd ar ôl chwe blynedd wrth y llyw.

Mewn neges ar wefan y clwb, dywed y Cadeirydd Gethin Jenkins:

“Hoffem ddiolch i Dave Jones am ei ymdrechion sylweddol gyda’r clwb dros y chwe blynedd ddiwethaf.

“Mae’n gadael ei swydd gan wybod ei fod wedi gadael y clwb mewn sefyllfa llawer gwell nag oedd pan gyrhaeddodd.

“O dan reolaeth Dave mae Caerdydd wedi datblygu o fod yn dîm sefydlog yn y Bencampwriaeth i un sy’n rheolaidd yn y ras am ddyrchafiad, ac mae hefyd wedi mynd â’r tîm i gêm derfynol Cwpan yr FA.”

Daeth Dave Jones i Gaerdydd i gymryd lle Lennie Lawrence yn 2005, ar ôl bod yn rheolwr ar Southampton a Wolves.

Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi diweddu gyda siom fawr iddo ef a’r cefnogwyr. Y llynedd, collodd Caerdydd i Blackpool yn Wembley yng ngêm derfynol ail gyfle’r Bencampwriaeth, ac eleni collodd 3-0 i Reading yn y gemau cyn-derfynol.

Halen pellach ar y briw oedd gweld Abertawe’n mynd trwodd i’r gêm derfynol yn Wembley y prynhawn yma.