Bradley Manning (CCA 1.0)
Mae un o’r prif ymgyrchwyr tros hawliau dynol yn dweud fod milwr o dras Cymreig wedi ei ddal ynghanol y frwydr rhwng Llywodraeth yr Unol Daleithiau a gwefan Wikileaks.

Fe ddywedodd y Farwnes Helena Kennedy wrth gynulleidfa yng Ngŵyl y Gelli Gandryll bod Bradley Manning yn cael ei ddefnyddio gan yr Americaniaid i geisio dinistrio’r wefan a’i sylfaenydd, Julian Assange.

Mae Bradley Manning, sy’n fab i Gymraes ac a dreuliodd beth o’i arddegau yn Hwlffordd, wedi cael ei garcharu a’i gadw ar ei ben ei hun ar gyhuddiad o ollwng miloedd o ffeiliau cyfrinachol i Wikileaks.

‘Dychrynllyd’

Roedd yn filwr yn Irac ar y pryd ac mae wedi bod yn y ddalfa ers blwyddyn – yn yr un cyfarfod yn y Gelli, roedd yr Aelod Seneddol Ann Clwyd yn condemnio’r ffordd y cafodd ei drin, gan ddweud ei bod yn “ddychrynllyd”.

Yn ôl Helena Kennedy, roedd Rhyfel Irac wedi chwalu’r ymddiriedaeth rhwng pobol a llywodraethau ar draws y byd.

Roedd yna beryg mawr, meddai, bod Bradley Manning yn cael ei wneud yn “fwch dihangol” yn y frwydr rhwng Llywodraeth yr Unol Daleithiau a Wikileaks, sydd wedi cyhoeddi cannoedd o filoedd o ddogfennau cyfrinachol.