Mae grŵp ymgyrchu wedi sefydlu sianel deledu tros dro i brotestio’n erbyn y bygythiad i arian ac annibyniaeth S4C.

Y cyflwynydd Angharad Mair, a enillodd un o brif wobrau BAFTA Cymru neithiwr, fydd yn lansio Sianel 62 ar ran Cymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd.

Fe fydd modd i blant a phobol ar y maes ffilmio clipiau a chyfrannu at y sianel ar-lein sydd, yn ôl y Gymdeithas, yn “dangos y problemau sy’n deillio o ddiffyg adnoddau”.

“Does dim modd rhedeg sianel yn iawn heb gyllid hirdymor, na chynllunio ar gyfer y dyfodol,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams.

“Mae dau beth felly rydyn ni’n galw amdanyn nhw – sicrhau annibyniaeth S4C a bod cyllid digonol wedi’i glustnodi.”

Peidio â thalu

Mae’r Gymdeithas yn parhau i alw ar bobol i beidio â thalu eu trwyddedau teledu “nes bydd sicrwydd i’r sianel” ond dydyn nhw ddim yn galw, y tro yma, am roi’r gorau i’r trafodaethau cydweithio rhwng y BBC a’r sianel.

Y bwriad yw bod y rhan fwya’ o arian S4C yn dod trwy’r BBC ac mae Ymddiriedolaeth y BBC eisiau rhywfaint o reolaeth neu hawl i arolygu’r sianel.

Mae Sianel 62 wedi cael ei henwi ar ôl y flwyddyn pan ddechreuodd Cymdeithas yr Iaith ac fe fydd yn parhau am wythnos Eisteddfod yr Urdd.

Rhagolwg o’r sianel fan hyn.