Fe fydd pump o enillwyr lwcus Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yr wythnos yma’n cael cyfle i brofi hud a lledrith Disneyland Paris.
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae’r gwobrau wedi cael eu sicrhau trwy bartneriaeth rhwng Cyrchfannau Rhyngwladol Disney ac Urdd Gobaith Cymru.
Cyhoeddodd yr Urdd heddiw y bydd enillwyr y cystadlaethau canlynol yn cael cyfle i gynrychioli’r Urdd yng Ngŵyl Gymreig Disneyland Paris rhwng y 9fed a’r 11eg o Fawrth y flwyddyn nesaf:
- Unawd – Blwyddyn 2 ac iau (rhif cystadleuaeth: 165)
- Unawd – Blynyddoedd 3 a 4 (166)
- Unawd – Alaw Werin Blwyddyn 6 ac iau (200)
- Unawd Merched – Blynyddoedd 7-9 (177)
- Unawd o Sioe Gerdd – Hyd at Flwyddyn 10 ac o dan 19 oed (184)
“Rydym wrth ein boddau fod y pum enillydd yn mynd i gael y profi hud a lledrith Disney yn ystod yr Ŵyl Gymreig unwaith eto,” meddai Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Aled Siôn.
“Mae’r bartneriaeth rhwng Disney a’r Urdd yn rhywbeth sydd wedi datblygu dros y tair blynedd diwethaf, ac mae’n wych i feddwl fod pum enillydd arall am elwa ar brofiadau newydd o ganlyniad i’r cydweithrediad.”
Ategodd Peter Welch, Is-Lywydd Cyrchfannau Disney Rhyngwladol:
“Mae’n bleser croesawu enillwyr ifanc talentog yr Urdd i Disneyland Paris bob tro. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r enillwyr a’u teuluoedd unwaith eto eleni i’r Ŵyl Gymreig yn y parc sydd yn wych a hudolus bob blwyddyn.”