Mae Eisteddfod yr Urdd yn cychwyn yn Abertawe heno gyda Chyngerdd Mawreddog yng nghwmni’r canwr John Owen-Jones, y cyflwynydd Alex Jones a’r gantores Cerys Matthews.

Ac o yfory ymlaen, mae disgwyl y bydd tua 15,000 o gystadleuwyr yn cymryd rhan yn yr ŵyl ar safle’r hen waith dur yn Felindre.

 “Wedi’r gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n bleser gen i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Abertawe a’r Fro,” meddai cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Dyfrig Ellis.

“Mae Abertawe’n gyfan yn edrych ymlaen at yr wythnos sydd i ddod. A thra bo tîm pêl droed Elyrch Abertawe yn gobeithio dangos eu doniau ar gae Wembley yfory, mae’n sicr y bydd doniau lu i’w gweld ar hyd a lled y Maes yma wrth i ieuenctid talentog Cymru ymgasglu i gystadlu a mwynhau.”

Wrth groesawu’r Eisteddfod, dywedodd y Cynghorydd Graham Thomas, Aelod Cabinet dros Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth Cyngor Abertawe: 

“Mae hwn yn un o’r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr digwyddiadau Cymru ac rydym wrth ein boddau ein bod yn ei gynnal yma yn Abertawe. 

 “Mae hyn yn gyfle gwych i hyrwyddo ein diwylliant ac i dynnu sylw at y ddawn sydd yn bodoli yng Nghymru.  Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i ni arddangos yr holl elfennau sydd yn gwneud Bae Abertawe yn gyrchfan ymwelwyr mor wych.”

Cyfarwyddiadau teithio

Os yn teithio o’r Gorllewin (Caerfyrddin) : ymunwch â’r M4 ym Mhont Abraham. Gadewch yr M4 ar gyffordd 47 a dilyn yr arwyddion am faes yr Eisteddfod i lawr yr A48 a throi i’r chwith.

Os yn teithio o’r Dwyrain (Caerdydd) (Llun – Fercher) : Gadewch yr M4 ar gyffordd 44 a dilynwch yr arwyddion i’r maes parcio ble fydd bysiau gwennol yn eich cludo i’r Maes.

Os yn teithio o’r Dwyrain (Caerdydd) (Iau – Sadwrn)  Gadewch yr M4 ar gyffordd 47 a dilyn yr arwyddion am faes yr Eisteddfod i lawr yr A48 a throi i’r chwith.

Ar y bws

Fe fydd Bws Gwennol o Ysbyty Treforys i’r Maes yn ddyddiol o tua 09:00-6:00. Y bws sy’n mynd i’r Ysbyty yw rhif 4 Metro, sy’n cychwyn yn Singleton, trwy ganol y Ddinas, heibio Stadiwm y Liberty ac i fyny am Dreforys.