Llys Ynadon Dolgellau (Gwasanaeth y Llysoedd)
Mae pensiynwr wedi cael ei garcharu am wrthod talu dirwy a chostau llys tros brotest ddarlledu.

Fe benderfynodd Llys Ynadon Dolgellau anfon Geraint Jones o Drefor i garchar am ddeng niwrnod.

Mae yntau wedi dweud y bydd yn ymprydio trwy gydol ei amser dan glo.

‘Seisnigo’ Radio Cymru

Roedd wedi dweud cyn yr achos nad oedd eisiau i neb dalu’r ddirwy ar ei ran wrth iddo brotestio yn erbyn “Seisnigo” Radio Cymru ac o blaid ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i gadw annibyniaeth S4C.

Geraint Jones, sy’n 69 oed, oedd y person cynta’ i fynd i’r carchar ar ran Cymdeithas yr Iaith yn ôl yn nechrau’r 60au.

Mae’n aelod o’r mudiad iaith Cylch yr Iaith ac wedi bod yn feirniad cyson o ddefnydd o Saesneg ar Radio Cymru.

Yn ôl Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y Gogledd, mae’r Gymdeithas yn “hynod o falch fod Geraint Jones wedi gwrthwynebu’r newidiadau i S4C yn ei araith yn y Llys – newidiadau a thoriadau sydd yn peryglu dyfodol ein hunig sianel deledu Cymraeg”.