Dylan Iorwerth

Wrth i’r BBC baratoi toriadau anferth, mae Dylan Iorwerth yn dadlau pam fod Radio Cymru – a gwasanaethau Cymreig BBC Wales – yn achos arbennig i’r Gorfforaeth Ddarlledu.

Erbyn hyn, mae’n glir bod y BBC yn ystyried toriadau sylweddol iawn i wasanaethau BBC Cymru, gan gynnwys y gwasanaethau Cymraeg.

Efo dogfen o’r  fath, mae’n rhaid bod yn effro i’r posibilrwydd bod darluniau eithafol yn cael eu creu er mwyn gwneud i bobol groesawu toriadau llai eithafol wedyn.

Ond, os ydi’r awgrymiadau sy’n dod o’r adeilad mawr yn Llandaf yn wir, mae darlledu Cymraeg am gael ei ddifrodi’n ddrwg iawn – ym maes radio, yn ogystal â thrwy S4C.

Ryden ni i gyd wedi syrffedu ar glywed y ddadl bod rhaid i bawb gymryd eu siâr o’r cyni – syrffedu am nad ydi pawb yn gorfod gwneud hynny a syrffedu am nad ydi hynny’n wir mewn achosion fel hyn.

Darlledu cyhoeddus

Swyddogaeth y BBC ydi darparu gwasanaethau darlledu cyhoeddus – y pethau nad yw’r sector masnachol yn eu cynnig, nac yn debyg o wneud. Mae gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn enghraifft berffaith o hynny.

Mae’r ffaith eu bod nhw bellach yn un o gonglfeini’r holl ddiwylliant a’r iaith Gymraeg yn tanlinellu hynny; o ran eu harwyddocâd, mae’r gwasanaethau Cymraeg yn fwy nag adloniant a diddanwch.

Mae digonedd o ddarlledwyr eraill yn cynnig llawer o’r un arlwy Saesneg ag y mae’r BBC – dyw ein gorsafoedd radio lleol a chenedlaethol eraill ni, er enghraifft, yn cynnig fawr ddim Cymraeg, ac eisiau cynnig llai.

Achos arbennig

Mi fydd rhaid i Radio Cymru gymryd rhai toriadau, wrth gwrs, ond mi ddylen nhw fod yn llawer llai nag mewn rhannau eraill dymunol ond diangen o’r BBC.

Mi fydd yna wasanaethau eraill ar draws y Gorfforaeth yn haeddu cael eu gwarchod fwy na’r gweddill hefyd, a’r rheiny’n cynnwys rhai o wasanaethau nodedig Gymreig BBC Wales.

O ran gwleidyddiaeth, diwylliant, hanes a rhai mathau o adloniant, does neb arall yn cynnig yr arlwy hwnnw chwaith.

Mae’r toriadau arfaethedig yn brawf o ran dylanwad Llywodraeth Cymru ond maen nhw hefyd yn brawf ar weddill ein gwleidyddion ni. Mae angen unoliaeth.

Mae pob plaid wedi mynegi cefnogaeth i ddarlledu Cymraeg a Chymreig. Dyma’u cyfle i ddangos hynny.