Aled Roberts
Mae disgwyl cyhoeddiad ddydd Gwener ynglŷn â dyfodol dau Aelod Cynulliad sydd wedi eu diarddel o’r  Senedd.

Cafodd yr ACau Aled Roberts a John Dixon eu gwahardd o’u seddi am eu bod nhw wedi parhau’n aelodau o gyrff cyhoeddus ar ôl sefyll ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, sy’n groes i’r gyfraith.

Roedd Aled Roberts o restr Gogledd Cymru yn aelod o Gomisiwn Prisiau Cymru a John Dixon o ranbarth Canol De Cymru yn aelod o Gyngor Gofal Cymru.

Mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r cyhuddiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad fod adroddiad wedi ei baratoi ar gyfer y Llywydd, Rosemary Butler, ac y bydd hi’n clywed barn arweinwyr y pleidiau cyn dydd Gwener.

“Mae adroddiad wedi ei baratoi ar gyfer y Llywydd sy’n darparu cyngor cyfreithiol yn ymwneud â materion sy’n codi o ddiarddel dau o ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol,gafodd eu gwahardd o fod yn Aelodau Cynulliad o ganlyniad i fod yn aelodau o gyrff sydd wedi eu rhestru yng Ngorchymyn Diarddeliad y Cynulliad Cenedlaethol 2010,” meddai llefarydd ar ran y Cynulliad.

“Serch hynny mae ymchwiliad llawn gan Glerc y Cynulliad i ethol y ddau AC wedi ei oedi wrth i’r heddlu ymchwilio.”