Prifysgol Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu codi £9,000 y flwyddyn ar fyfyrwyr sydd eisiau astudio yno.

Fis diwethaf datgelodd Golwg 360 fod Cyngor Prifysgol Aberystwyth wedi cytuno i godi £9,000, sef yr uchafswm sy’n bosib, ar eu myfyrwyr nhw.

Bydd rhaid i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gytuno cyn y bydd gan y prifysgolion yr hawl i godi’r swm.

Bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i dalu £3,375 y flwyddyn, a Llywodraeth Cymru yn talu’r gweddill. Serch hynny fe fydd myfyrwyr sy’n dod i Gymru o Loegr yn gorfod talu’r swm llawn.

Mae disgwyl i brifysgolion blaenllaw eraill Cymru, gan gynnwys Bangor, hefyd godi’r £9,000 llawn ar fyfyrwyr.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, Dr David Grant, nad oedd y penderfyniad wedi “bod yn un hawdd” i’r brifysgol.

Roedd rhaid i’r brifysgol ystyried ffyrdd eraill o ariannu eu cyrsiau wrth i’r llywodraeth gyfrannu llai yn sgil y toriadau ariannol, meddai.

“Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau fod pawb sydd â’r potensial i lwyddo yn gallu astudio yma,” meddai.

Dywedodd Undeb Myfyrwyr Caerdydd eu bod nhw’n cefnogi’r penderfyniad i godi’r uchafswm ar fyfyrwyr.

“Rydyn ni’n ffyddiog y bydd Caerdydd yn parhau yn un o’r llefydd gorau ym Mhrydain i fyw ac astudio,” meddai Llywydd yr undeb, Olly Birrell.