Glyn Davies
Mae’r AS Ceidwadol Glyn Davies wedi dweud fod cynlluniau i godi tyrbinau gwynt a pheilonau trydan yng nghanolbarth Cymru yn gyfystyr â Thryweryn.

Wrth annerch torf o tua 1,000 o brotestwyr y tu allan i’r Senedd dywedodd mai nod y cynlluniau i godi’r ffermydd gwynt Mhowys a Cheredigion yw “gwladychu ac ecsbloetio ein cenedl unwaith eto”.

Mae cannoedd o ymgyrchwyr wedi teithio o’r ardal wedi  i Gaerdydd heddiw er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i bolisi TAN 8 Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth y Cynulliad o blaid codi 10 fferm wynt yn y canolbarth a symud yr egni i Loegr drwy ddegau o beilonau sydd dros gan droedfedd o uchder.

Ymysg y rheini sy’n gwrthwynebu mae Ifan Davies, sydd wedi treulio’r chwe diwrnod diwethaf yn cerdded bob cam o Gefn Coch i Gaerdydd ar droed er mwyn dangos ei wrthwynebiad.

“Rydyn ni’n cerdded er mwyn gallu rhoi gwybod i bobol beth sy’n digwydd ar hyd y ffordd,” meddai.

“Mae pedwar ohonon ni wedi cerdded yr holl ffordd o’r Trallwng, ac mae pobol wedi bod yn ymuno â ni ar y ffordd.”

Yn ôl Ifan Davies mae’r ymateb i’w hymgyrch wedi bod yn “andros o dda,” a bod pobol yn dechrau deall bellach “nad yw melinau gwynt yn gweithio”.

“Maen nhw eisoes wedi dinistrio ucheldiroedd Cymru â’r melinau gwynt yma, a nawr maen nhw eisiau dinistrio gweddill canolbarth Cymru.”

Un o gwynion mawr yr ymgyrchwyr yw nad yw’r cwmnïau sy’n gyfrifol am y cynlluniau yn poeni am yr amgylchedd lleol.

“Ond nid bai’r cwmnïau ydi o, mae pob cwmni allan yno i wneud arian. Ac nid bai’r ffermwyr ydi o,” meddai Ifan Davies, sydd ei hun yn ffermio yng Nghefn Coch, ond sy’n gwrthwynebu’r datblygiadau. “Mae gen i gydwybod,” meddai.

Mae Ifan Davies yn dweud mai Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol yn y pen draw. “Bai’r polisi ydi o.”

“Mae’r ymateb gan wleidyddion wedi bod yn gymysglyd iawn,” meddai Ifan Davies, sy’n dweud fod rhai ACau yn gwrthod cefnogi’r ymgyrch oherwydd safiad eu plaid ar y polisi.

Barn AC

Ymysg y gwleidyddion sy’n cefnogi’r protestwyr yw Aelod Cynulliad Ceidwadol newydd Sir Drefaldwyn, Russell George.

“Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi llawer gormod o bwyslais ar dyrbinau gwynt,” meddai Russell George, “a hynny bron yn anwybyddu ffynonellau egni eraill mwy dibynadwy, sy’n cael llai o effaith andwyol ar gefn gwlad.”

Ac mae’r AC wedi bod yn cefnogi’r cerddwyr ar eu ffordd hefyd, yn ôl Ifan Davies.

“Daeth Russell George i lawr â dŵr a siocled i ni ar y ffordd,” meddai, “ac roedd e yno i’n croesawu ni i Gaerdydd.”

Gobaith y protestwyr nawr yw cael cyfarfod â Gweinidog Amgylchedd newydd Llywodraeth Cymru, John Griffiths, er mwyn cyflwyno eu deiseb a’u cwynion iddo.