Huw Jones
Mae Huw Jones, yr ymgeisydd sydd wedi ei ddewis gan Lywodraeth San Steffan i lenwi swydd Cadeirydd Awdurdod S4C, wedi dweud fod angen i’r sianel a’r BBC gystadlu yn erbyn ei gilydd.

Ond mae hefyd wedi mynnu bod rhaid i’r sianel gydweithio gyda’r trefniant newydd sydd wedi ei greu gan Lywodraeth Prydain, lle bydd arian S4C yn dod trwy’r BBC.

Y bore yma roedd Huw Jones yn wynebu’r Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig er mwyn iddyn nhw gael cyfle i roi sêl bendith ar y penodiad.

Fe fydd casgliadau’r pwyllgor yn cael u hystyried cyn i’r Llywodraeth benderfynu bwrw ymlaen gyda phenodiad  Huw Jones ai peidio.

Penodi Prif Weithredwr

Dywedodd Huw Jones mai penodi Prif Weithredwr newydd fydd ei flaenoriaeth gyntaf os yw’n cael y swydd.

Ond ychwanegodd nad oedd yn gwybod beth oedd wrth wraidd y problemau yn S4C dros y flwyddyn ddiwethaf ac nad oedd yn bwriadu cyhoeddi ymchwiliad os oedd yn bachu’r swydd.

“Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd yn union,” meddai. “Ond rydw i’n hyderus yn fy ngallu i gael pobol i weithio efo’i gilydd a bihafio’n rhesymol.

“Mae’n anghenrheidiol ein bod ni’n cydweithio â’r BBC. Fel arall dyw’r arian ar gyfer S4C ddim yn mynd i fod yno. Rydw i’n gobeithio bod cryfder deallusol y ddadl honno yn caniatáu i bawb gydweithio â’i gilydd.”

Annibyniaeth S4C

Dywedodd fod trafodaethau ynglŷn ag union natur perthynas S4C â’r BBC yn mynd rhagddyn nhw ac nad oedd modd iddo drafod y sefyllfa nes cwblhau’r rheiny. Ond mynnodd ei fod yn benderfynol o gadw annibyniaeth olygyddol S4C.

“Mae gan y BBC sawl cyfrifoldeb arall,” meddai. “Mae angen S4C am ei bod yn edrych ar ôl beth sydd o fudd i wylwyr Cymraeg heb i hynny gael ei foddi gan faterion eraill.

“Er engraifft pan oeddwn i’n Brif Weithredwr ar S4C roedden ni angen brwydro’n galed iawn i sicrhau ein bod ni’n sianel rhif 4 ar y gwasanaethau digidol.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n gallu ystyried ‘ydi hyn yn gytundeb da ai peidio’ yng nghyd destun beth sydd o fudd i siaradwyr Cymraeg yn hytrach nag yng nghyd destun y BBC yn ei chyfanrwydd.

“Mae angen i S4C fod yn cystadlu yn erbyn y BBC – yn cystadlu am yr actorion gorau ac am y syniadau gorau.”

Arwahanrwydd

Dywedodd nad oedd yn teimlo fod angen yr un arwahanrwydd rhwng Awdurdod S4C a’i Phrif Weithredwr ac sydd rhwng Ymddiriedolaeth y BBC a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol – arwahanrwydd oedd y polisi a arweiniodd at y ffraeo rhwng yr Awdurdod a’r Prif Weithredwr yn S4C.

“Dydw i erioed wedi credu fod angen yr arwahanrwydd haearnaidd yna,” meddai. “Dydi’r corff ddim ar yr un raddfa a’r BBC.”

Ychwanegodd ei fod wedi ymgeisio ar gyfer y swydd am ei fod yn “pryderu” am yr hyn oedd yn digwydd o fewn S4C dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Rydw i’n credu ei bod yn amhosib i iaith leafrifol oroesi heb lwyfannau cyfryngol modern,” meddai cyn ychwanegu mai S4C fyddai ei flaenoriaeth ac y byddai’n fodlon rhoi rhagor na’r tri diwrnod sydd wedi eu penodi ar gyfer y gwaith.

Y cefndir

Roedd Huw Jones yn Brif Weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005 ac mae hefyd wedi bod yn gadeirydd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd am dair blynedd.

Ymddiswyddodd y Cadeirydd diwethaf, John Walter Jones, cyn y Nadolig.

Ar hyn o bryd, Rheon Tomos yw Cadeirydd dros dro’r Awdurdod, ac Arwel Ellis Owen yw’r Prif Weithredwr dros dro.

Mae’r sianel wedi bod heb Brif Weithredwr parhaol ers i Iona Jones gael ei diswyddo fis Awst y llynedd.

Mae disgwyl y bydd Prif Weithredwr parhaol yn cael ei benodi ar ôl i’r Cadeirydd newydd yr Awdurdod gymryd yr awenau.