Cei Newydd
Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl dod o hyd i gorff dyn ar ffordd yng Ngheredigion.

Daethpwyd o hyd i’r corff ar y B4342 rhwng Llanarth a Chei Newydd yn hwyr neithiwr. Mae’r rhan o’r ffordd wedi ei gau wrth i’r heddlu ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd yr heddlu nad oedd yna esboniad eto am beth oedd wedi achosi’r farwolaeth.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101.