Catherine a Ben Mullany
Mae teulu pâr priod o Gymru gafodd eu saethu yn farw ar eu mis mel ar ynys Antigua yn y Caribî wedi eu siomi unwaith eto wrth i achos llys y llofruddwyr honedig gael ei oedi.

Roedd disgwyl i Avie Howell a Kaniel Martin ymddangos o flaen Uchel Lys yr ynys ddoe er mwyn ateb y cyhuddiad eu bod nhw wedi lladd Ben and Catherine Mullany o Bontardawe.

Maen nhw hefyd wedi eu cyhuddo o ladd tri pherson arall, y peiriannydd Tony Louisa, 43, y myfyriwr Rafique Kareem Harris, 24, a’r perchennog siop Woneta Anderson Walker, 43.

Mae’r mater wedi ei oedi am 10 diwrnod arall. Cafodd Avie Howell a Kaniel Martin eu cyhuddo o lofruddio’r ddau yn ôl yn 2008 – ond maen nhw wedi eu cadw dan glo yng ngharchar St John’s yr ynys ers hynny.

“Rydyn ni wedi cael gwybod sawl gwaith fod yr achos llys yn mynd rhagddo, cyn i bethau newid ar y funud olaf,” meddai ewyrth Ben Mullany, Michael Meredith.

“Mae’r teulu yn teimlo ein bod ni wedi disgwyl yn rhy hir i’r mater gael ei ddatrys. Ond y cwbl y mae’n bosib i ni ei wneud yw disgwyl, a gobeithio y bydd yr achos yn bwrw ymlaen yn hwyr yn hytrach na’r hwyrach.”

Cafodd Ben a Catherine Mullany eu saethu tua 5pm ar 27 Gorffennaf, 2008, yn eu chalet pum seren yng ngwesty’r Cocos Hotel – ychydig dros bythefnos ers priodi.

Fe fu farw’r doctor Catherine Mullany, 31 oed, yn syth ond goroesodd Ben Mullany, oedd hefyd yn 31 oed, am gyfnod.

Cafodd ei hedfan yn ôl i Ysbyty Treforys yn Abertawe, ble’r oedd ei wraig yn gweithio, ond fe fu farw wythnos ar ôl y saethu.

Cafodd y pâr priod 31 oed eu claddu ar dir y capel lle’r oedden nhw wedi priodi pedair wythnos ynghynt.

Oedi

Roedd disgwyl i Avie Howell a Kaniel Martin wynebu achos llys yn 2009, ond cafodd y dyddiad ei wthio yn ôl.

Ym mis Ionawr cadarnhaodd barnwr ar yr ynys y byddai’r ddau yn wynebu achos llys ar 23 Mai.

Ond heddiw dywedodd llefarydd ar ran Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Antigua fod yr achos llys wedi ei oedi nes 1 Mehefin.

Bryd hynny fe fydd achos llys Ben a Catherine Mullany, yn ogystal â Woneta Anderson Walker, yn dechrau.

Bydd achosion llys Tony Louisa a Rafique Kareem Harris yn dechrau yn ddiweddarach.,

Daw’r newid wedi i dîm cyfreithiol Avie Howell a Kaniel Martin ofyn am gael gwthio’r cyfan yn ôl ymhellach, gan ddweud eu bod nhw eisiau achos llys ar wahân ar gyfer pob un o’r pum cyhuddiad o lofruddio.