Mae Aelod Seneddol o Gymru’n dweud ei bod yn warth ei fod ef ac eraill yn gorfod dwyn achos llys er mwyn gorfodi Heddlu Llundain i wneud eu gwaith.

Mae Chris Bryant, AS Llafur y Rhondda, wedi croesawu dyfarniad yr Uchel Lys yn rhoi hawl iddo ef a thri achwynwr arall – gan gynnwys y cyn Ddirprwy Brif Weinidog, John Prescott –  gael adolygiad barnwrol.

Maen nhw’n credu bod newyddiadurwyr o bapur y News of the World wedi torri i mewn i’w cyfrifon ffonau symudol ond bod Heddlu Llundain wedi methu ag ymchwilio’n iawn i’r cwynion.

Fe ddywedodd yr heddlu mai dim ond nifer bychan o achosion oedd – erbyn hyn mae perchnogion y papur ei hun wedi cydnabod bod yr arfer yn un cyffredin.

Sylwadau Chris Bryant

“Pam bod Heddlu’r Met wedi penderfynu cyfyngu ei ymchwiliad ac wedi gwrthod neu fethu â dweud wrth ddioddefwyr posibl?” meddai Chris Bryant wrth Golwg360.

“R’yn ni’n gwybod eisoes na lwyddodd yr ymchwiliad gwreiddiol i ddod yn agos at ddatgelu maint troseddu’r News of The World.

“Does gan lawer o bobol ddim syniad o hyd fod y News of The World wedi hacio’u ffonau. Mae’n warthus ein bod yn gorfod mynd i’r llys i orfodi’r Met i wneud be allan nhw a’r hyn y dylen nhw fod wedi’i wneud bum mlynedd yn ôl.”