Y Swyddfa Basports
Mae undeb gweision sifil wedi croesawu’r newydd gwell na’r disgwyl y bydd 150 o swyddi o hyd gyda’r Gwasanaeth Pasports yng Nghasnewydd.

Ond mae’r PCS hefyd yn condemio’r ffaith bod bron cymaint â hynny’n colli eu gwaith ac yn rhybuddio nad oes sicrwydd mai’r gweithwyr presennol fydd yn cael y swyddi sy’n aros.

Doedd y cyhoeddiad gan y Swyddfa Gartref ddim yn fuddugoliaeth, medden nhw, ac maen  nhw’n poeni y gallai’r swyddi fydd ar ôl fod ar delerau salach.

Mae gweinidogion y Llywodraeth – gan gynnwys Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru – yn dadlau bod y cyhoeddiad yn dangos eu bod yn gwrando.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, 120 o swyddi sy’n cael eu colli i gyd – y bore yma, roedd yr undeb yn sôn am 280.

Datganiad yr undeb

“Mae yna rhyddhad i raddau bod dim cymaint o swyddi’n cael eu colli o’i gymharu â’r hyn oedd wedi’i grybwyll yn wreiddiol – felly mae’r llywodraeth wedi symud ychydig ar hynny,” meddai Ysgrifennydd y PCS yng Nghymru, Peter Harries.

“Ond r’yn ni’n dal i fod yn siomedig gan fod 50% o weithwyr y ganolfan yn mynd i golli eu swyddi”

“R’yn ni’n hefyd yn pryderu y bydd rhaid i bobol gynnig eto am eu swyddi a does dim sicrwydd y byddan nhw’n llwyddo i gael eu swyddi’n ôl.

“Mae yna hefyd bryder y bydd y rhai hynny sy’n llwyddo i gael eu swyddi’n ôl yn gorfod gweithio ar gyflog is na’r hyn yr oedden nhw’n ei ennill cynt”

“D’yn ni ddim yn teimlo bod hon yn fuddugoliaeth ac r’yn ni’n dal i fod yn wyliadwrus o’r sefyllfa yn enwedig os bydd gweithwyr yn dychwelyd i’w swyddi ar delerau salach.”