Bob Greenland ar y sgrin 65 modfedd yng Nghwmbran.
  Er ei fod ar wyliau yng Nghanada, mae un o gynghorwyr Sir Fynwy wedi medru cyfrannu at y drafodaeth yn siambr y cyngor.

Roedd y Cynghorydd Bob Greenland yn cyd-drafod gyda chyd-aelodau’r Cabinet yng Nghwmbran, ac yntau 5,000 o filltiroedd i ffwrdd yn Salt Lake City yn nhalaith Utah yn America.

Mae’n debyg mai dyma’r tro cyntaf yn hanes llwyodraeth leol yng Nghymru i aelod etholedig gymryd rhan mewn cyfarfod trwy wrando ac ymateb ar sgrîn deledu.

 Yn rhyfedd ddigon ac yntau ar wyliau teulu yng Nghanada, roedd y Cynghorydd Bob Greenland yn trafod twristiaeth gyda’i gyd-aelodau yn y siambr yng Nghwmbran.

 Roedd yn defnyddio glinidaur, gwe-gamera a rhaglen Skype i anfon llun byw ohono’i hun draw at sgrîn 65 modfedd yma yng Nghymru.

Doedd y cyswllt ddim wedi costio’r un geiniog, yn ôl Cyngor Sir Fynwy, ac fe allai arwain at fwy o gynghorwyr yn cyfrannu fel hyn pan nad ydyn nhw’n gallu bod yn bresennol yn y cnawd.

 Yn dilyn y cyfarfod mi wnaeth y Cynghorydd Bob Greenland drydar y neges ganlynol:  “Joined Cabinet meeting via live link from USA to present new tourism signing policy. Able to fully participate in debate thanks to new IT.”