Tlws Llyfr y Flwy
Dwy nofel a hunangofiant o fath sydd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn eleni.

Yn ôl y beirniaid fyddai ganddyn nhw ddim problem gyda gwobrwyo’r un o’r tair cyfrol –  y ddwy nofel, Caersaint gan Angharad Price a Lladd Duw gan Dewi Prysor a Bydoedd gan Ned Thomas.

Mae’r tair hefyd yn rhoi sylwebaeth am Gymru, meddai Cadeirydd y beirniaid, Simon Brooks.

  • Y fwya’ dadleuol o’r tair yw Lladd Duw, un o’r nofelau gyda mwya’ o regfeydd yn hanes y Gymraeg. Ond mae hefyd yn darlunio sawl agwedd galed ar gymdeithas yng nghefn gwlad Cymru heddiw ac yn cynnwys stori am gam-drin plant ac ymgais i danseilio cymuned leol trwy ddatblygiad moethus.
  • Mae Caersaint yn nofel llawn hiwmor am ddyn o Gaernarfon yn cael ei rwygo sawl ffordd wrth ddychwelyd i’w hen dref.
  • Nid hunangofiant yw Bydoedd ond ‘cofiant cyfnod’ a’r ymgyrchydd a’r academydd Ned Thomas yn disgrifio cefndir cyfnodau allweddol yn ei fywyd, yn benna’ mewn gwledydd tramor.

‘Arhosol’

“Dyma ddwy nofel wych am am ddylanwad y byd ar Gymru, ac un campwaith o gofiant am Gymru yn y byd,” meddai Simon Brooks.

“Rwy’n siŵr y bydd cyfraniad y tri awdur i lenyddiaeth Gymraeg yn arhosol.”

Y tri llyfr ar y rhestr fer Saesneg yw’r gyfrol farddoniaeth What the Water Gave Me gan Pascale Petit, llyfr taith, Cloud Road gan John Harrison, a nofel wyddonias, Terminal World gan Alastair Reynolds.