Mae’r trafferthion yn parhau i ddau o ACau’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi cael eu gwahardd o’r Cynulliad Cenedlaethol.

Ar ôl i weddill yr ACau wrthod eu derbyn yn ôl ddoe, mae’r BBC’n adrodd bod achos Aled Roberts a John Dixon wedi ei dynnu at sylw’r heddlu.

Maen nhw’n dweud bod aelod UKIP yn y Senedd Ewropeaidd, John Bufton, wedi gofyn i’r heddlu ymchwilio gan ddweud bod y ddau’n euog o dwyllo etholiadol.

Mae cyn bennaeth cyfreithiol y Cynulliad, Winston Roddick, hefyd wedi dweud wrth raglen deledu CF99 bod etholiad y ddau’n anghyfreithlon.

‘Camgymeriad technegol’

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gobeithio y bydden nhw’n cael cefnogaeth y Cynulliad tros yr hyn y maen nhw’n ei alw’n “gamgymeriad technegol”.


Aled Roberts
Roedden nhw wedi bwriadu rhoi cynnig yn adfer y ddau i’w seddi, ond fe ddaeth hi’n amlwg brynhawn ddoe na fyddai’r pleidiau eraill yn cefnogi, gan gynnwys y brif blaid, Llafur,

Mae’r ddau wedi eu gwahardd o’u seddi – “anghymhwyso” yw’r term cyfreithiol – oherwydd eu bod wedi parhau’n aelodau o gyrff cyhoeddus ar ôl sefyll ar gyfer etholiadau’r Cynulliad – mae hynny’n groes i’r gyfraith.

Rhestr wahardd

Camgymeriad oedd y cyfan, meddai Aled Roberts, a gafodd ei ethol ar restr y Democratiaid Rhyddfrydol tros Ogledd Cymru.

Roedd ef yn aelod o Gomisiwn Prisiau Cymru a John Dixon, o ranbarth Canol De Cymru, ar Gyngor Gofal Cymru, dau o’r cyrff sydd ar restr wahardd ar gyfer ymgeiswyr Cynulliad.