Dafydd Elis-Thomas
Mae Aelodau Cynulliad wedi talu teyrnged ffurfiol i gyn-Lywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas, heddiw.

Camodd yr Arglwydd Elis-Thomas o’r neilltu’r wythnos diwethaf ar ôl bod yn y swydd am 12 mlynedd.

Mae wedi ei olynu gan y cyn-Ddirprwy-Lywydd Rosemary Butler o’r Blaid Lafur, a David Melding o’r Blaid Geidwadol yw ei dirprwy hi.

Heddiw diolchodd ACau o bob plaid yn y siambr i Dafydd Elis-Thomas am ei waith dros y degawd diwethaf.

Dywedodd arweinydd dros dro’r Ceidwadwyr, Paul Davies, fod y cyn-Lywydd wedi sicrhau fod gan Gynulliad Cymru “enw da ledled Ynysoedd Prydain”.

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, fod Dafydd Elis-Thomas wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau fod y Cynulliad yn ennill pwerau deddfu llawn.

Dywedodd Edwina Hart o’r Blaid Lafur fod Dafydd Elis-Thomas wedi dangos tegwch at bob plaid yn ystod ei gyfnod yn Llywydd.

Clodforodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty William, Dafydd Elis-Thomas am ganiatáu i drafodaeth yn y Siambr “lifo” heb ymyrryd yn ormodol.

“Yn San Steffan roeddech chi’n cael eich ystyried yn fabi’r tŷ. Fe allwn ni yn y Cynulliad gytuno mai chi yw tad y tŷ yma,” meddai.