Aled Roberts
Mae cynnig fyddai wedi caniatáu i ddau Aelod Cynulliad gafodd eu gwahardd o’r Senedd gael cadw eu swyddi wedi ei dynnu’n ôl heddiw.

Ddoe cyhoeddwyd nad oedd gan ddau AC o’r Democratiaid Rhyddfrydol – Aled Roberts a John Dixon – yr hawl bod yn aelodau, oherwydd eu bod yn gwasanaethu ar gyrff cyhoeddus.

Roedd disgwyl i’r pleidiau eraill yn y Cynulliad pleidleisio i ddileu’r rheolau sefydlog tros dro heddiw er mwyn i’r ddau gael cadw’u seddi.

Ond heddiw dywedodd y Blaid Lafur na fyddwn nhw’n pleidleisio o blaid, a’u bod nhw’n ystyried y mater yn un difrifol.

Roedd Aled Roberts wedi cael ei wahardd oherwydd ei fod yn aelod o Dribiwnlys Prisio Cymru, a John Dixon wedi ei wahardd oherwydd ei fod yn aelod o Gyngor Gofal Cymru.

Ni fydd yn bosib cyflwyno cynnig newydd i adfer y ddau i’w seddi yn y Cynulliad nes y cyfarfod llawn nesaf wythnos i heddiw.

Dywedodd Aled Roberts mai camgymeriad technegol oedd hyn, a’i fod wedi ymddiswyddo o’r Tribiwnlys “o fewn pum munud” i glywed fod problem.

Dywedodd yr AC Peter Black, sy’n cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol, wrth raglen AMPM fod y mater wedi “achosi chwithdod ac wedi tynnu sylw”.

“Mae gennym ni dau Aelod Cynulliad sydd angen gallu cymryd eu lle yn y Senedd – rhaid i fi gydweithio â’r pleidiau eraill er mwyn eu hannog nhw i gefnogi hynny.”