Aled Roberts

Mae Aelod Cynulliad yn dweud fod gwers i’w dysgu ar ôl iddo ef ac aelod arall gael eu gwahardd tros dro.

Mae’r ddau AC o’r Democratiaid Rhyddfrydol – Aled Roberts a John Dixon – wedi darganfod nad oedd ganddyn nhw hawl bod yn aelodau, oherwydd eu bod yn gwasanaethu ar gyrff cyhoeddus.

Y disgwyl yw y bydd y mater yn cael ei ddatrys yn y Cynulliad fory, gyda’r pleidiau eraill yn debyg o ddileu’r rheolau sefydlog tros dro er mwyn pleidleisio i’r ddau gael cadw’u seddi.

Cynnig i anghymwyso

Mae Golwg360 yn deall bod cynnig i anghymwyso’r ddau wedi ei osod ar yr agenda fory ac y bydd ACau’n ei drafod. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y bydd y pleidiau eraill yn eu cefnogi.

“Mae yna wersi i’w dysgu,” meddai Aled Roberts. “Mae’n anffodus; mae’n ymddangos bod rhaid i’r pleidiau fod yn fwy gofalus.”

  • Roedd ef wedi cael ei wahardd oherwydd ei fod yn aelod o Dribiwnlys Prisio Cymru, yn cynrychiholi llywodraeth leol.
  • Roedd John Dixon wedi ei wahardd oherwydd ei fod yn aelod o Gyngor Gofal Cymru.

‘Dim hawl’

Does gan aelodau o’r cyrff hyn ddim hawl i gael eu henwebu i fod yn ACau nac i sefyll, oherwydd eu bod yn dod o dan Lywodraeth Cymru.

Camgymeriad technegol oedd hyn, meddai Aled Roberts, ac roedd wedi ymddiswyddo o’r Tribiwnlys “o fewn pum munud” i glywed fod problem. John Dixon oedd wedi sylweddoli bod anhawster trwy ei gysylltiad gyda’r Cyngor Gofal.

“Ro’n i wedi gofyn i’r Tribiwnlys a oedd problem cyn cael fy enwebu,” meddai Aled Roberts. “Wnaethon nhw ddim dod yn ôl ata’ i ac wedyn wnaethon nhw ddweud nad oedd yna ddim problem.

“Mae’n ymddangos fod pethau wedi newid rhwng 2006 a 2010. Y Tribiwnlys ydi’r corff ola’ ond un ar restr  Gorchymyn Anghymwyso 2010.”

Roedd yn amau y byddai ymgeiswyr rhai o’r pleidiau eraill hefyd wedi tramgwyddo’r rheol.