Mohammad Asghar
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi datgelu cabinet yr wrthblaid yn y Cynulliad.

Cyhoeddodd yr arweinydd dros dro, Paul Davies, ei fod wedi penodi 12 o Aelodau Cynulliad y Ceidwadwyr i’r cabinet.

Mae’r dewis yn cynnwys llefarydd ar faterion gwledig – ar ôl i’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru feirniadu’r Blaid Lafur am hepgor gweinidog materion gwledig o’u cabinet nhw.

Bydd un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn cymryd rheolaeth dros fenter a busnes a thechnoleg.

Bydd ei wrthwynebydd Nick Ramsay yn llefarydd ar arian, y prif chwip ac arweinydd y tŷ yr wrthblaid.

Ymysg aelodau eraill cabinet yr wrthblaid mae Mohammad Asghar, sydd yn llefarydd yr wrthblaid ar chwaraeon a chydraddoldeb.

Yr Aelod Cynulliad newydd, Byron Davies, yw’r llefarydd ar adfywiad a thrafnidiaeth.

Suzy Davies yw llefarydd yr wrthblaid ar Ddiwylliant a’r Iaith Gymraeg, ac Antoinette Sandbach yw’r llefarydd ar Faterion Gwledig.

“Ni yw’r wrthblaid swyddogol yn y Cynulliad, ac felly mae gennym ni gyfrifoldeb i gadw llygad ar y llywodraeth a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gwneud beth sydd orau,” meddai arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.

“Fe fydd cabinet yr wrthblaid yn gwneud yn siŵr fod hynny yn digwydd.

“Yn wahanol i’r Blaid Lafur mae’r Ceidwadwyr yn credu y dylai materion gwledig gael llais o amgylch bwrdd y Cabinet.

“Dydyn ni ddim yn cytuno â phenderfyniad y Blaid Lafur i ddarostwng y swydd i un dirprwy weinidog.

“Fe fydd presenoldeb llefarydd yr wrthblaid ar faterion gwledig yn sicrhau fod gan Gymru wledig y llais cryf sydd ei angen arni.”

Dim ond un AC Ceidwadwol sydd ddim wedi cael swydd yn y cabinet, sef David Melding, gafodd ei benodi yn Ddirprwy-Lywydd y Cynulliad yr wythnos diwethaf.

Cabinet y Ceidwadwyr Cymreig yn llawn:

Paul Davies – Arweinydd dros dro

Mohammad Asghar – Chwaraeon a Cydraddoldeb

Angela Burns – Addysg

Andrew RT Davies – Menter a Busnes a Thechnoleg

Byron Davies – Adfywiad a Thrafnidiaeth

Nick Ramsay – Cyllid, Prif Chwip, Finance, Arweinydd y Tŷ yr Wrthblaid

Suzy Davies – Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant

Janet Finch-Saunders – Gwasanaethau Cymunedol

Russell George – Yr Amgylchedd a Datblygiadau Cynaliadwy

William Graham – Llywodraeth Leol

Mark Isherwood – Cymunedau a Thai

Darren Millar – Iechyd

Antoinette Sandbach – Materion Gwledig