Andrew RT Davies
Andrew RT Davies a Nick Ramsey yw’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

Dim ond dau ymgeisydd oedd yn cael sefyll, ac os oedd mwy na dau ymgeisydd cyn y terfyn amser 5pm byddai’r ACau wedi gorfod dewis rhyngddyn nhw.

Mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol ynglŷn â phwy yw’r ymgeiswyr yfory. Mae angen enwebiad tri Aelod Cynulliad ar bob un sydd am sefyll.

Yn gynharach heddiw cyhoeddodd un o’r ffefrynnau cynnar, yr Aelod Cynulliad, Darren Millar, na fyddai’n sefyll, ac y byddai’n enwebu Andrew RT Davies yn ei le.

Cyhoeddodd neges ar Twitter brynhawn heddiw yn dweud: “Mae’n bryd dod a’r dyfalu i ben. Rydw i’n cefnogi Andrew RT Davies i arwain grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.”

Mewn cyfweliad dros y penwythnos, dywedodd Nick Ramsay y gallai’r blaid fynd “am yn ôl” dan ofal ymgeisydd arall.

Mae arweinydd dros dro’r Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, wedi dweud na fydd yn gwneud cais i arwain y blaid yn yr hir dymor.

Mae’r Ceidwadwyr yn edrych am arweinydd newydd ar ôl i’r cyn-Aelod Cynulliad, Nick Bourne, golli ei sedd yn y Senedd yn Etholiadau’r Cynulliad ddechrau’r mis.

Serch hynny, enillodd y blaid ddwy sedd, gan wthio Plaid Cymru i’r trydydd safle.

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael £40,000 ar ben ei gyflog blynyddol o £53,852 am fod yn Aelod Cynulliad.

Bydd aelodau’r blaid wedi dewis enillydd erbyn canol mis Gorffennaf.

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael £40,000 ar ben ei gyflog blynyddol o £53,852 am fod yn Aelod Cynulliad.