Ieuan Wyn Jones

Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau iddi.

Tra’n cydnabod bod canlyniadau’r etholiad diweddar wedi bod yn siomedig, mae Ieuan Wyn Jones wedi gwrthod y cyhuddiad nad ydy’r Blaid yn gwybod beth yw ei phwrpas.

Er nad yn rhoi dyddiad pendant ar gyfer ei ymadawiad, roedd yr Arweinydd yn dweud ei bod wastad yn fwriad iddo roi’r gorau iddi cyn etholiadau nesa’r Cynulliad yn 2016.

Bydd Ieuan Wyn Jones yn ymgynghori gydag aelodau’r Blaid ar lawr gwlad, er mwyn trefnu’r adeg orau i gynnal etholiad ar gyfer yr arweinyddiaeth.

“Mae’n rhaid bod digon o amser i Arweinydd newydd sefydlu ei hun ymhell cyn 2016,” meddai.

Yn ôl un ffynhonnell o fewn y Blaid fe allai Ieuan Wyn Jones aros fel Arweinydd am hyd at ddwy flynedd.

Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi awgrymu y bydd yn sefyll.

Angen pwyllo a phost mortem

“Roedd canlyniadau etholiad 2011 yn siomedig i Blaid Cymru, ac fel yr arweinydd rwy’n ysgwyddo fy nghyfran o’r bai am y canlyniadau hynny,” meddai Ieuan Wyn Jones wrth gyhoeddi ei fwriad i roi’r gorau iddi ryw ben yn y dyfodol.

“Yn amlwg mae’r Blaid angen amser i bwyso a mesur y canlyniadau, craffu’n hir a chaled ar ein neges, y drefn o fewn ein plaid a’n galluoedd ymgyrchol.

“Ers 1999 ryda ni wedi cymryd camau breision i gryfhau gallu’r Blaid i ymgyrchu. Ond yn awr mae’n rhaid symud y Blaid i gyfnod nesaf ei datblygiad, a chynnal adolygiad trwyadl. Ddyle ni ddim cael ein temtio i wneud penderfyniadau cyflym, ond cymryd yr amser sydd ei angen i gywiro’r sefyllfa.”

Diolch i’w deulu a’i etholwyr

Mae Ieuan Wyn Jones wedi dweud na fyddai wedi medru arwain y Blaid am ddegawd a mwy oni bai am gefnogaeth ei deulu.

“Rydw i eisiau diolch i Eirian fy ngwraig, am ei chefnogaeth ryfeddol a’i hanogaeth. Mae hi wedi bod yn angor drwy’r cyfan. Hefyd mae fy nhri o blant a’u pedwar o blant nhw wedi bod yn gefn mawr. A diolch arbennig i fy mam sydd wedi dathlu ei phen-blwydd yn 89 oed yn ddiweddar. Mae fy mrawd Arwel wedi bod yn gefnogol a pharod iawn  ei gyngor brawdol hefyd.

“Rydw i’n ddiolchgar i bobol Ynys Môn am eu cefnogaeth anhygoel ar Fai’r 5ed ac rwyf yn awr yn ymrwymo i ad-dalu’r gefnogaeth honno trwy fod yn Aelod Cynulliad hyd’noed mwy effeithiol yn ystod tymor y Cynulliad hwn.”