Rosemary Butler
Mae Rosemary Butler o’r Blaid Lafur wedi ei hethol yn Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’n olynu Dafydd Elis-Thomas o Blaid Cymru sydd wedi bod yn Llywydd ers sefydlu’r Cynulliad yn 1999.

Cynigiodd Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, enw Rosemary Butler yn Llywydd, ac eiliodd Paul Davies y cynnig. Doedd yna ddim cynnig arall.

Cafodd David Medling a William Graham o’r Blaid Geidwadwol eu henwebu ar gyfer swydd y Dirprwy-Lywydd. Enillodd David Melding yr etholiad o 46 pleidlais i 12.

Dywedodd Rosemary Butler, Aelod Cynulliad Gorllewin Casnewydd, y byddai’n “amddiffyn hawliau pob aelod ar y meinciau ôl – ac ambell weinidog”.

“Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i Dafydd Elis-Thomas am ei garedigrwydd tuag ata’i yn ystod fy nghyfnod yn Ddirprwy-Lywydd.

“Mae ei weledigaeth wedi siapio datblygiad cyfan y Cynulliad. Mae’n bencampwr go iawn dros Gymru. Mae wedi chwarae rhan, ac fe fydd yn parhau i chwarae rhan, yn hanes Cymru.”

Dywedodd Ieuan Wyn Jones wrth ei henwebu fod ganddi y “profiad a’r cymwysterau priodol”.

O ystyried bod llywydraeth leafrifol mewn grym roedd yn bwysig fod rhywun wrth y llyw fyddai’n gallu cadw’r heddwch, meddai.

Cofio Brynle

Dechreuodd y Pedwerydd Cynulliad gyda theyrngedau at y cyn-Aelod Cynulliad, Brynle Williams, fu farw yn niwrnodiau olaf y Cynulliad diwethaf.

Dywedodd arweinydd dros-dro y Ceidwadwyr, Paul Davies, ei fod “yn golled anferth i’w deulu, y Blaid Geidwadol, y sefydliad, a’r wlad yma”.

“Mae ein meddyliau a’n gweddïau ni gyda’i deulu heddiw.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod Brynle “yn pryderu’n fawr am ddyfodol cefn gwlad Cymru”.

“Doedd o ddim yn hoffi gwisgo swit – roedd e’n ffarmwr yn y bon. Roedd yn ddyn hoffus a chymdeithasgar.”

Dywedodd Elin Jones, y cyn-Weinidog Amaeth, fod Brynle Williams “yn rhagori ar wleidyddiaeth pleidiol”.

“Bob wythnos fe fyddai Brynle yn adrodd pryderon ffermwyr mart Rhuthun neu y Wyddgrug i fi,” meddai Elin Jones.

Safodd yr Aelodau Cynulliad ar eu traed am funud i’w gofio yn Siambr y Senedd.