Lindsay Whittle
Mae Arweinydd Cyngor Caerffili, Lindsay Whittle, wedi cadarnhau y bydd yn camu o’r neilltu er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa newydd yn Aelod Cynulliad.

Cafodd Lindsay Whittle ei ethol yn ymgeisydd dros Blaid Cymru ar sedd De Ddwyrain Cymru yn Etholiadau’r Cynulliad yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r dyn 58 oed yn bwriadu rhoi gorau i’w safle ar y cyngor unwaith y bydd olynydd yn ei le, ond mae’n bwriadu dal ei afael ar ei sedd ar y cyngor.

“Mae swydd arweinydd yn un llawn amser a dw i ddim yn credu ei fod yn bosib ymroddi’r amser a’r egni sydd ei angen petawn i’n parhau, ar ôl cael fy ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol,” meddai.

“Rydw i’n falch iawn o beth mae Plaid Cymru wedi ei gyflawni yng Nghaerffili. Ni oedd yr unig awdurdod yng Nghymru lwyddodd i osgoi codi trethi cyngor eleni, ac rydyn ni wedi arbed arian heb dorri cyflogau gweithwyr y cyngor a gwasanaethau rheng flaen.

“Fe fyddaf i’n aros yn fy swydd nes bod olynydd wedi ei ethol, a fydd o fewn yr wythnosau nesaf.”

Mae sawl Aelod Cynulliad arall yn gynghorwyr lleol, gan gynnwys AC Gorllewin De Cymru, Peter Black, sydd ar Gyngor Abertawe, ac AC Gogledd Cymru, Aled Roberts, arweinydd Cyngor Wrecsam.