Canol dinas dienaid Bangor
Mae Bangor wedi ei feirniadu gan lyfr teithio newydd sy’n honni fod unig ddinas y gogledd-orllewin yn ‘ddienaid’.

Mae argraffiad newydd llyfr teithio Lonely Planet pethau digon miniog i’w dweud am rhai o drefi a dinasoedd eraill Cymru, hefyd.

Uchafbwynt “canol dinas ddienaid” Bangor yw “Canolfan Siopa Deiniol, sydd yn newydd ond ychydig yn llwm”.

“Mae dyddiau gorau’r ddinas wedi hen fynd heibio,” meddai.

Disgrifiwyd Caerfyrddin fel tref “hynafol a chwedlonol” sydd bellach yn ddim mwy na “canolfan siopa a theithio”.

Mae Aberteifi yn ei chael hi am ei enw gwirion Saesneg – Cardigan. “Mae pobol y dref yn ragor tebygol o wisgo hwdis a trainers na chardigan”.

“Does yna ddim ryw lawer iawn i’w weld yno,” meddai’r llyfr.

Mae’r brifddinas Caerdydd wedi ei oresgyn gan “fyddin” o bobol ifanc sy’n “crwydro o dafarn, i glwb nos, i siop kebabs, beth bynnag y tywydd”.

Mae Aberystwyth yn cael adolygiad ychydig yn well. Mae’r dref Brifysgol yn “fywiog” ac yn “cosmopolitan”, meddai’r llyfr.