Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi mynegi eu parodrwydd i gydweithio gyda’r Blaid Lafur wrth i’r Cynulliad gyfarfod am y tro cyntaf heddiw.

Ddoe cyhoeddodd arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, Carwyn Jones, ei fod yn bwriadu sefydlu llywodraeth leiafrifol yr wythnos hon ond fod trafodaethau gyda’r pleidiau eraill yn parhau.

Enillodd y Blaid Lafur 30 sedd yn Etholiadau’r Cynulliad ddydd Iau, un yn fyr o fwyafrif.

‘Parod i wrando’ – Plaid

Ond dywedodd Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, fod gan “Llafur ddyletswydd foesol i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru, gan mai nhw yw’r blaid fwyaf”.

“Rydyn ni wedi ei gwneud hi’n glir y byddwn ni’n barod i wrando petai’r Blaid Lafur eisiau siarad gyda ni,” meddai.

“Yn y tymor byr fe fydd Plaid Cymru yn chwarae ein rhan wrth sicrhau fod gan bobol Cymru wrthblaid onest.

“Ein swyddogaeth ni yn dilyn penderfyniad y Blaid Lafur i ffurfio llywodraeth leiafrifol fydd sicrhau eu bod nhw’n driw i’w haddewidion i amddiffyn pobol Cymru rhag toriadau’r Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd, fel yr oedden nhw wedi ei addo yn ystod yr etholiad.”

‘Rhaid cydweithio’ – Dem Rhydd

Dywedodd Kirsty Williams fod rhaid i bleidiau Cymru weithio gyda’i gilydd er mwyn datrys problemau Cymru.

“Fydd y sefydlogrwydd y mae Carwyn Jones ei eisiau ddim yn bosib os nad ydi’r pleidiau yn gweithio gyda’i gilydd,” meddai.

“Rhaid i ni anghofio am yr anghytundebau rhwng ein pleidiau a cheisio dod o hyd i gonsensws, ac mae hynny’n golygu y bydd rhaid i bob plaid gyfaddawdu.

“Mae’n amlwg fod Cymru’n dioddef o ganlyniad i economi gwan a methiannau yn ein hysgolion a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Os yw’r Blaid Lafur yn cynnig atebion difrifol i’r problemau hynny fe wnawn ni eu cefnogi nhw.

“Fe fyddwn ni’n barnu pob mater yn unigol, heb fod yn ofn cefnogi na gwrthwynebu’r llywodraeth, os yw hynny o fudd i bobol Cymru.”

Camgymeriadau – Ceidwadwyr

Dywedodd arweinydd dros dro’r Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, eu bod nhw’n canolbwyntio ar sicrhau bod “Cymru yn cael blaenoriaeth”.

“Ar ôl 12 mlynedd o lywodraeth wedi ei arwain gan y Blaid Lafur mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ein hysgolion a’r economi yn methu,” meddai.

“Y cwbl yr ‘yn ni wedi ei weld dan Lafur yw addewidion gwag a thargedau wedi eu methu.

“Yn dilyn etholiad llwyddiannus arall y Ceidwadwyr Cymreig yw’r ail blaid fwyaf yn y Cynulliad.

“Rhaid i Lafur roi’r gorau i’w camgymeriadau ac fe fydd Ceidwadwyr Cymru yn gwneud ein gorau i sicrhau fod hynny’n digwydd.”