Swyddfa S4C yng Nghaerdydd
Mae aelodau seneddol o Gymru wedi galw am greu S4C newydd fydd yn gweithio mewn teledu a’r cyfryngau newydd.

Maen nhw hefyd wedi mynnu bod angen amddiffyn annibyniaeth y sianel, o ran rheolaeth a chynnwys.

Yn ei adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, mae’r Pwyllgor Dethol Cymreig yn San Steffan yn galw am well rheolaeth ariannol a gwneud y sianel yn atebol i’r Cynulliad.

Beirniadu

Mae’r adroddiad yn ddi flewyn ar dafod wrth gondemnio’r sianel a’r Llywodraeth yn Llundain am rai o fethiannau’r gorffennol a’r misoedd diwetha’.

Doedd yr Adran Ddiwylliant yn Whitehall ddim wedi bod yn cadw digon o lygad ar y sianel, meddai, ac roedd y penderfyniad i’w rhoi dan adain y BBC wedi ei wneud ar hast, heb ymgynghori digon.

Ond roedd Awdurdod y Sianel hefyd wedi troi’r sianel yn ddrama, gan fethu â chynnig arweiniad effeithiol i’r sianel ar adeg pan oedd arian a rheolaeth y corff dan amheuaeth.

“Ddylai S4C ddim gadael i’r fath sefyllfa ddatblygu fyth eto,” meddai’r Adroddiad, gan gondemnio’r sianel am fethu ag egluro’n gyhoeddus pam bod y Cadeirydd, y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Comisiynu wedi gadael o fewn chwech mis i’w gilydd.

Argymhellion

Mae’r Pwyllgor hefyd yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer y dyfodol:

• Ddylai S4C ddim diodde’ mwy o doriadau nag unrhyw ddarlledwr cyhoeddus arall.

• Fe ddylai’r Llywodraeth roi sicrwydd mewn deddf o ddyfodol ariannol S4C ar ôl 2014-15.

• Fe ddylai S4C dderbyn ei chyfran yn llawn o ffi’r drwydded deledu, gymaint o leia’ ag a addawodd yr Adran Ddiwylliant y llynedd.

• Er nad dyma’r amser i ddatganoli darlledu, fe ddylai Llywodraeth y Cynulliad gyfrannu at arian S4C ac fe ddylai’r sianel fod yn atebol i bwyllgor yn y Cynulliad.

• Fe ddylai’r Adran Ddiwylliant gomisiynu adolygiad eang o S4C, corff y mae’r Pwyllgor yn “credu’n angerddol ynddo”.

• Mae angen sicrwydd y bydd llais unigryw Cymraeg S4C yn cael ei gynnal – yn ddarlledwr Cymraeg yn unig … mae peryg na fydd y BBC yn rhoi’r prif flaenoriaeth i raglenni Cymraeg.

• Er nad oedd tystiolaeth fod S4C yn gwastraffu arian, roedd y ffaith ei bod yn gallu torri 40 o swyddi’n awgrymu bod arbedion i’w gwneud ac roedd angen rhoi’r gorau i’r arfer o dalu am yswiriant iechyd preifat i rai o’i gweithwyr.

• Fe ddylai’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod yn archwilio cyfrifon y sianel yn gyson – cyn hyn doedd “dim digon o fesur ei heffeithiolrwydd ariannol yn fewnol nac allanol.

• Fe ddylai S4C fod yn rhoi mwy o fusnes i gwmnïau y tu allan i Gaerdydd ac, yn y dyfodol, fe ddylai ystyried symud ei phencadlys oddi yno.

Ymateb S4C

Dywedodd  S4C eu bod nhw’n croesawu Adroddiad y Pwyllgor Dethol “ac yn arbennig ei werthfawrogiad o gyfraniad pwysig y Sianel i fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru”.

“Mae’r Pwyllgor yn cydnabod na fyddai gan Gymru sector gynhyrchu annibynnol heb fodolaeth S4C,” meddai llefarydd ar ran y sianel.

Dywedodd Rheon Tomos, Cadeirydd dros dro Awdurdod S4C, ei fod yn weddol hapus â’r adroddiad.

“Mae’r Adroddiad yn un cadarnhaol ar y cyfan ac yn gymorth i S4C wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol,” meddai.

“Rydym yn ymwybodol bod gwaith i wneud mewn rhai meysydd ac mae llawer o’r gwaith hynny ar y gweill ers rhai misoedd bellach.”

‘Anwybyddu’

Dywedodd Menna Machreth, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddarlledu, eu bod nhw’n cytuno â chasgliadau’r adroddiad.

“Er fod y llywodraeth wedi anwybyddu galwadau o Gymru hyd yn hyn mae’n debyg y bydd rhaid i’r Llywodraeth ail-ystyried eu cynllun annoeth yn sgil yr adroddiad beirniadol hwn,” meddai.

“Rydyn ni’n falch bod barn unedig Cymru sydd yn gwrthwynebu’r toriadau enfawr wedi ei adlewyrchu gan y mwyafrif o ASau o Gymru.

“Nid yw ein synnu bod y gwrthwynebiad mor gryf, gan fod y fargen rhwng y llywodraeth a’r BBC yn golygu torri grant S4C o 94% – toriad sydd yn hollol annheg.

“Rydyn ni’n sicr yn cytuno gyda’r angen am S4C newydd yn yr oes aml-blatfform newydd ac yr angen am fformiwla ariannu hir dymor mewn deddf gwlad.”

Dywedodd Meic Birtwistle ar ran undeb newyddiadurwr yr NUJ y bydd “yr adroddiad hwn yn rhoi pwysau mawr ar y Llywodraeth i edrych o’r newydd ar ei chynlluniau.

“Dim ond gyda ffordd newydd ymlaen, sydd yn adeiladu consensws ar draws Cymru gyfan, gallwn ni sicrhau’r rhaglenni safonol sydd angen i sicrhau llwyddiant y sianel.”