Dafydd Elis-Thomas
Ni fydd Dafydd Elis Thomas yn cael ei enwebu pan fydd Llywydd y Cynulliad yn cael ei ddewis yfory.

Mae Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionydd wedi bod yn Llywydd ers 1999. Y disgwyl yw y bydd y Llywydd yn dod o Blaid Lafur a’r Dirprwy Lywydd o’r gwrthbleidiau.

Mewn cyfarfod â’r wasg heddiw dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, y dylai Aelod Cynulliad o’u plaid nhw fod yn Llywydd y Cynulliad.

Dywedodd Paul Davies fod “Dafydd Elis Thomas wedi gwneud ei waith yn wych dros y 12 mis diwethaf”.

“Ond yng ngoleuni ein canlyniad gwych yr wythnos diwethaf rydyn ni’n credu y dylai’r Llywydd ddod o’n meinciau n,” meddai.

Serch hynny AC Llafur Dwyrain Casnewydd, Rosemary Butler, yw’r ffefryn i gymryd yr awenau. Hi oedd y Dirprwy-Lywydd yn y Cynulliad diwethaf.

Ymysg y Ceidwadwyr, Angela Burns, AC Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, neu William Graham, AC Dwyrain De Cymru, yw’r ddau ddewis amlwg.

Yn draddodiadol mae’r llywydd neu’r dirprwy lywydd yn dod o un blaid sydd mewn llywodraeth ac un o’r gwrthbleidiau.