Mae Ofcom wedi derbyn cais gan berchnogion Radio Ceredigion i newid fformat yr orsaf radio er mwyn lleihau’r defnydd o’r Gymraeg.

Mae’r cwmni eisiau dileu gofyniad trywdded Ofcom y dylai darllediadau yr orsaf gyfateb i “tua hanner Cymraeg a hanner Saesneg”.

Maen nhw hefyd am ostwng y gofyniad am gerddoriaeth Cymraeg yn ystod y dydd o 20% i 10%.

Fe fydd Ofcom yn cynnal ymgynghoriad gan gasglu barn unrhyw un sydd am gyfrannu erbyn 3 Mehefin cyn gwneud penderfyniad.

Mae Town and Country Broadcasting Ltd wedi bod yn berchen yr orsaf ers Ebrill 2010.

Rhoddodd Ofcom ganiatâd i’r perchnogion newydd adleoli’r orsaf o’i chanolfan flaenorol yn Aberystwyth i’w chydleoli gyda gorsafoedd eraill sy’n eiddo i Town & Country yn Arberth.

Gwrthwynebu

Mae cadeirydd Cyfeillion Radio Ceredigion wedi galw ar drigolion y sir i wrthwynebu cais perchnogion yr orsaf radio i leihau’r defnydd o’r Gymraeg.

Dywedodd Geraint Davies y bydd Cyfeillion Radio Ceredigion yn “ymateb yn gryf i’r ymgynghoriad ac yn gwrthwynebu cynlluniau’r perchnogion yn gadarn.”

“R’yn ni’n galw ar unigolion a sefydliadau eraill i wneud yr un peth,” meddai Geraint Davies.

‘Dicter’

Dywedodd cadeirydd Cyfeillion Radio Ceredigion ei fod yn croesawu penderfyniad Ofcom i gynnal ymgynghoriad yn hytrach na derbyn cais y perchnogion.

“Mae cais Town and Country Broadcasting yn sarhad pellach ar yr iaith Gymraeg.  Maen nhw’n ceisio dileu’r defnydd o’r iaith,” meddai Geraint Davies.

“Ond fydd hynny ddim yn dderbyniol i bobl Ceredigion – mae yna ddicter o fewn y sir ynglŷn â’r hyn mae Town and Country Broadcasting wedi ei wneud i’r gwasanaeth.

“Rwy’n hollol argyhoeddedig fod yna wrthwynebiad cryf o fewn y sir.  Mae yna fwy yn y fantol na gorsaf radio – mae’r iaith Gymraeg hefyd yn y fantol.”

‘Niwsans’

Mae Geraint Davies yn credu mai bwriad y perchnogion o’r cychwyn oedd dileu defnydd yr iaith Gymraeg ar Radio Ceredigion.

“Mae gan y perchnogion track record o wneud hyn gyda gorsafoedd megis Radio Sir Gar a Scarlet FM yn y gorffennol,” meddai.

“Rwy’n mawr obeithio na fydd Ofcom yn derbyn cais y perchnogion ac rwy’n galw ar Ofcom i sicrhau bod Town and Country Broadcasting yn glynu at amodau’r drwydded wreiddiol.”

‘Adlewyrchu’r galw’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu Radio Ceredigion am wneud cais i leihau’i darpariaeth Gymraeg.

Roedd Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi nodi eu pryderon pan drosglwyddwyd rheolaeth dros yr orsaf i gwmni yn  Arberth, yn Sir Benfro, y llynedd.

Mae’r gymdeithas yn credu bod y cais diweddaraf yn gam arall yn ôl ac maen nhw’n galw am ymyrraeth gan y Llywodraeth.

“Nid yn unig mae Radio Ceredigion yn ceisio lleihau ei darpariaeth Gymraeg ond mae Real Radio wedi cael trwydded i ddarlledu drwy Gymru gyfan heb ddatgan unrhyw fwriad i gynnig darpariaeth Gymraeg felly does dim dwywaith fod pethau’n dirywio’n sylweddol,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams.

“Gall y llywodraeth dynhau rheolau a pholisïau iaith Ofcom yng Nghymru er mwyn sicrhau na fydd dirywiad pellach ac mae angen gwneud hynny’n syth.

“Mewn ardal lle mae dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg dylai Radio Ceredigion, fel pob gorsaf radio lleol yng Nghymru, fod yn adlewyrchu’r galw yn hytrach na thorri arno.

“Mae’r ystod o orsafoedd sydd ar gael nawr yn Saesneg wedi ffrwydro, tra bo’r hyn sydd ar gael yn y Gymraeg wedi crebachu’n sylweddol. Mae’r profiad hwn yn cryfhau ein dadleuon fod angen datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yma i Gymru.”