Bydd Cyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad newydd yn cael ei gynnal brynhawn yfory, cadarnhawyd heddiw.

Bydd y 60 Aelod yn cyfarfod ar gyfer dechrau’r Pedwerydd Cynulliad yfory am 3.00pm yn y Senedd.

Yr eitemau cyntaf ar yr agenda fydd ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd newydd i’r Cynulliad.

Y Llywydd blaenorol, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, fydd yn cadeirio’r trafodion ar gyfer ethol olynydd iddo, neu’r Clerc, os yw’r Llywydd blaenorol yn bwriadu sefyll.

Mae’r Blaid Geidwadol wedi mynnu y bydd un o’u haelodau nhw yn cael ei ethol yn Llywydd. Angela Burns, AC Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, yw’r ymgeisydd mwyaf tebygol.

Mae disgwyl i’r Dirprwy-Lywydd ddod o’r Blaid Lafur, gyhoeddodd y byddai’r ffurfio llywodraeth leafrifol heddiw.

Ar ôl ethol Llywydd a Dirprwy-Lywydd bydd y Cynulliad yn enwebu Carwyn Jones yn Brif Weinidog newydd Llywodraeth Cymru.

Bydd y Llywydd newydd yn cysylltu gyda’r Frenhines er mwyn argymell ei fod yn cael ei benodi yn Brif Weinidog.

Yr eitem gyntaf o fusnes ar gyfer y Cynulliad newydd fydd talu teyrnged i’r cyn-Aelod Brynle Williams a fu farw fis diwethaf yn 62 oed.

Bu Brynle’n cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru yn y Cynulliad ers 2003.