Rhodri Glyn Thomas
Mae Aelod Cynulliad wedi dweud ei fod yn pryderu ynglŷn â dylanwad pwyllgor yn San Steffan ar benderfyniad y llywodraeth i benodi Cadeirydd newydd ar Awdurdod S4C.

Ddoe cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan mai cyn-brif weithredwr S4C, Huw Jones, yw eu dewis nhw i gael ei benodi’n Gadeirydd newydd Awdurdod y sianel.

Ond cyn iddo gael ei benodi’n swyddogol,  bydd rhaid i Huw Jones wynebu’r Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig er mwyn iddyn nhw gael cyfle i roi sêl bendith i’r apwyntiad.

Dywedodd Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Rhodri Glyn Thomas, mai ei bryder ef yw y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant ac mai ychydig iawn o ddylanwad fydd gan y Pwyllgor Materion Cymreig.

“Yr ofn sydd gen i yw y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, a gan John Whittingdale, y Cadeirydd,” meddai Rhodri Glyn Thomos wrth Golwg360.

“Dw i’n poeni a oes gan y pwyllgor fandad i wneud y penderfyniad,” meddai gan ddweud nad yw’n credu y bydd gan y Pwyllgor Materion Cymreig ddylanwad.

Ychwanegodd y bydd rhaid i Huw Jones fod yn arweinydd “cryf a blaengar” os yw ei gyfnod yn Gadeirydd Awdurdod S4C am fod yn llwyddiannus.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas ei fod yn “croesawu”  penodiad Huw Jones a’i fod yn “deall darlledu a’r gynulleidfa”.

“Ond, taswn i’n gorfod bod yn feirniadol, mi faswn i’n dweud ei fod o’n benodiad braidd yn geidwadol. Mi faswn i wedi hoffi cael rhywun a gweledigaeth ychydig yn fwy blaengar.

“Mae’n Huw Jones yn cynrychioli degawd sydd wedi mynd heibio mewn darlledu yng Nghymru”.