Prifysgol Bangor (Dave Thompson/PA)
Mae Arweinwyr Undebau Cymraeg Prifysgol Bangor a Chaerdydd wedi datgan eu “pryder” ar ôl cyhoeddiad Prifysgol Aberystwyth eu bod nhw’n bwriadu codi £9,000 ar fyfyrwyr.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn bwriadu codi’r swm uchaf posib ar fyfyrwyr i astudio yno o fis Medi 2012 ymlaen. Pleidleisiodd Cyngor y Brifysgol o blaid y newid mewn cyfarfod ddoe.

Mae hynny wedi arwain at bryderon fod prifysgolion blaenllaw eraill Cymru, gan gynnwys Bangor a Chaerdydd, am godi’r £9,000 ar fyfyrwyr.

Dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor wrth Golwg 360 eu bod nhw’n bwriadu protestio os oes cynlluniau tebyg yn cael eu cyflwyno yno.

Does dim cadarnhad ynglŷn â lefel y ffioedd wedi dod gan Brifysgol Bangor a Chaerdydd eto.

‘Dyddiau tywyll’

Dywedodd  Owain Lewis, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd y byddai “pethau’n ddu ar fyfyrwyr o Loegr a myfyrwyr rhyngwladol” petai prifysgolion eraill Cymru yn dilyn esiampl Aberystwyth.

Dywedodd Owain Lewis ei fod yn creu fod y brifysgol yn “debygol” o fwrw ymlaen a chodi £9,000 ar fyfyrwyr sydd eisiau astudio yno.

“Mae’n edrych yn debygol. Mae’n amlwg yn beth trist ac yn siom mawr wedi’r holl brotestio,” meddai wrth Golwg360.

“Mae myfyrwyr yn talu crocbris er mwyn cael astudio mewn sefydliad addysg uwch beth bynnag.

“Y peth lleiaf allai’r Brifysgol ei wneud os yw’r ffioedd yn codi yw darparu’r addysg o’r safon uchaf  i ddisgyblion.”

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd y bydd y cyngor yn derbyn argymhellion ynglŷn â lefel y ffioedd o 2012 ymlaen yn ei gyfarfod nesaf.

Ychwanegodd y llefarydd y bydd eu cynllun ffioedd yn cael ei gyflwyno i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru cyn 31 Mai.

‘Gwerth yr arian’

“Os yw Aber yn gofyn am £9,000 mae’n debygol y bydd Prifysgolion Bangor a Chaerdydd yn gwneud hefyd,” meddai Mair Rowlands, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor wrth Golwg360.

“Mae’n dipyn o bryder. Bydd rhaid i’r Brifysgol wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael gwerth eu harian. Mae rhai myfyrwyr yn dweud rŵan nad ydyn nhw’n cael gwerth eu ffioedd presennol, sef tua £3,000.

“Mae yna lawer iawn o ansicrwydd ar hyn o bryd… Bydd rhaid iddyn nhw wneud arolygiad neu becyn yn dangos beth y bydd y disgyblion yn ei gael am eu harian. Mae profiad myfyrwyr yn un o’r pethau pwysicaf i’w ystyried

“Dw i’n rhagweld y bydd lobio ac y byddwn ni’n brwydro dros y myfyrwyr ar bob lefel os ydi hyn yn digwydd ym Mangor.”