Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu bwrw ymlaen a llywodraethu ar eu pennau eu hunain heb fwyafrif.

Enillodd y Blaid Lafur union hanner y seddi yn y Cynulliad yn yr etholiad ddydd Iau. Mewn cyfarfod bore ma fe fu ACau’r blaid yn trafod y dewisiadau oedd yn agored iddyn nhw.

Mewn datganiad yng nghyntedd y Senedd heddiw cyhoeddodd Carwyn Jones eu bod nhw wedi penderfynu peidio clymbleidio gyda Phlaid Cymru na’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Serch hynny dywedodd y byddai’r pleidiau yn “gweithio gyda’i gilydd” ac y bydd yn trafod ymhellach gyda’r pleidiau eraill gyda’r gobaith o gyd-weithio yn y dyfodol.

Dywedodd fod angen i’r pleidiau eraill gael lle i feddwl am y dyfodol. Ychwanegodd ei fod yn bwriadu ffurfio llywodraeth newydd erbyn diwedd yr wythnos.

“Wrth edrych ar y canlyniad, roedd yn hollol amlwg mai dymuniad pobol Cymru oedd bod y Blaid Lafur yn arwain y llywodraeth nesaf,” meddai.

“Mae trafodaethau wedi digwydd dros y dyddiau diwethaf, y tu mewn ac y tu allan i’r blaid hefyd.

“Felly fe fyddai’n ceisio ffurfio Llywodraeth yr wythnos yma fydd yn cynnwys gweinidogion o’r Blaid Lafur yn unig.”