Glen Freaney
Lladdodd mam ei mab awtistig drwy ei dagu â gwregys, clywodd llys ddoe.

Mae Yvonne Freaney, 49, yn cyfaddef dynladdiad ond yn gwadu llofruddio ei mab 11 oed Glen mewn gwesty ger Maes Awyr Caerdydd.

Daethpwyd o hyd i gorff Glen mewn ystafell yng Ngwesty Sky Plaza ym mis Mai y llynedd.

Aethpwyd a Yvonne Freaney o Benarth ym Mro Morgannwg i’r ysbyty gyda thoriadau ar ei breichiau a’i choesau.

Ar ddechrau’r achos llys yn ei herbyn yn Llys y Goron Caerdydd dywedodd yr erlynydd,  Gregg Taylor QC, y byddai’n “achos anodd”.

“Y cyhuddiad yn erbyn Mrs Freaney yw ei bod hi wedi lladd ei mab 11 oed, Glen Freaney. Roedd o’n fachgen ifanc iawn oedd yn dioddef o awtistiaeth difrifol iawn.

“Rywbryd rhwng 12 a 16 Mai fe laddodd hi Glen drwy ei dagu â gwregys cot.

“Unwaith yr oedd hi’n siŵr ei fod wedi marw fe orweddodd hi i lawr wrth ei ochor a cheisio ei lladd ei hun drwy hollti ei harddyrnau.”

Dywedodd wrth y rheithgor y byddai’r amddiffyniad yn ceisio honni fod Yvonne Freaney yn dioddef o “annormalaeth y meddwl” ac nad oedd hi’n lawn gyfrifol am ei gweithredoedd.

“Serch hynny ein barn ni yw bod hwn yn achos o lofruddiaeth ac mae dyna’r ddedfryd gywir.”


Llys y Goron Caerdydd
‘Hapus nawr’

Clywodd y llys fod Yvonne Freaney wedi dioddef o ganlyniad i drais yn y cartref a hunanniweidio.

Gadawodd ei gŵr ym mis Mawrth 2010, gan aros mewn cyfres o westai gyda Glen.

Roedd hi wedi anafu ei hun cyn gorwedd ar y gwely wrth ochor ei mab. Roedd hi wedi gosod ei deganau o’i gwmpas a chanu iddo wrth ei ddal yn dynn, clywodd y llys.

Pan gyrhaeddodd swyddogion yr heddlu’r gwesty, dywedodd Yvonne Freaney ei bod hi “wedi ei ladd tua 36 awr yn ôl. Rydw i wedi ceisio ymuno gyda ef”.

“Defnyddiais i’r gwregys wrth y gwely. Mae yn awtistig iawn, ond mae yn y nefoedd nawr lle na fydd e’n awtistig, fe fydd yn hapus nawr.”

Ar ôl iddi gael ei harestio honnodd fod ei mab yn “chwerthin wrth iddi ei dagu, dyna pryd y gwyddwn i y byddai’n hapus yno”.

Clywodd y llys fod Yvonne Freaney wedi dweud ei bod hi’n difaru peidio â’i lladd ei hun.

Ychwanegodd nad oedd hi am adael Glen ar ei ben ei hun, ac na fyddai ei gŵr wedi gallu ymdopi.

Bydd yr achos llys yn parhau heddiw.