Angela Burns - y Llywydd newydd?
Fe fydd Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur yn cwrdd ym Mae Caerdydd heddiw er mwyn trafod clymbleidio â phlaid arall neu fwrw ymlaen ar eu pennau eu hunain.

Bydd datganiad gan arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, Carwyn Jones, yn dilyn y cyfarfod.

Mae disgwyl y bydd cyfarfod llawn cyntaf y Senedd yn cael ei gynnal yfory, er mwyn dewis Llywydd a Dirprwy Lywydd ar gyfer y pleidiau.

Un posibilrwydd sydd wedi codi ydi y gallai’r Blaid Lafur ddod i gytundeb gyda’r Blaid Geidwadol a fyddai’n sicrhau mwyafrif iddyn nhw yn y Cynulliad.

Swyddi’r Llywydd a’r Dirprwy

Mae’r Blaid Lafur wedi wfftio’r posibilrwydd o unrhyw fath o glymblaid gyda’r Ceidwadwyr Cymreig.

Ond fe allai’r Blaid Lafur ganiatáu i Aelodau Cynulliad o’r Blaid Geidwadol gymryd swyddi’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn y Cynulliad.

Nid yw’r llywydd a’r dirprwy lywydd yn cael pleidleisio ac felly fe fyddai gan Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur 30 pleidlais yn y Siambr, tra bod gan y gwrthbleidiau 28 pleidlais yn unig.

Mae rheolau’r Cynulliad yn golygu fod rhaid i’r Llywydd a’r Dirprwy-lywydd ddod o bleidiau gwahanol – fel arfer, un o’r blaid sydd mewn grym a’r llall o’r wrthblaid.

Newid y rheolau

Ond mae’n bosib newid hynny os yw dau draean o’r ACau yn pleidleisio fel arall. Gyda’i gilydd mae gan Lafur a’r Ceidwadwyr 43 o’r 60 sedd yn y Cynulliad.

Angela Burns, Aelod Cynulliad Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, yw un o’r ffefrynnau ar gyfer swydd y Llywydd ar hyn o bryd. Fe fyddai hynny’n golygu na fyddai’n sefyll i fod yn arweinydd ei phlaid.

Os yw’n cael ei hethol hi fyddai ail Lywydd y Cynulliad, ar ôl yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a gafodd ei benodi’n Llywydd yn 1999, a’i ail-benodi yn 2003 a 2007.

Y gred yw ei fod yntau’n awyddus i gael ei enwebu unwaith eto eleni.

Ymateb chwyrn

Ymatebodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, yn chwyrn i’r awgrym y gallai Llafur a’r Ceidwadwyr ddod i gytundeb gan ddweud y byddai’n adlewyrchu’n ddrwg ar y ddwy blaid.

“Bob tro y mae un o welliannau’r Ceidwadwyr yn cael ei drechu fe fyddwn ni yn eu hatgoffa nhw mai nhw sy’n gyfrifol am golli’r bleidlais,” meddai ar ei flog.

“A sut fydd y Blaid Lafur yn teimlo ynglŷn â chytuno ar drefniant gyda’r Ceidwadwyr Cymreig?”