Ieuan Wyn Jones - yn saff am y tro?
Mae cyn-Aelod Seneddol sydd ymysg Aelodau Cynulliad newydd Plaid Cymru wedi awgrymu y byddan nhw’n cadw Ieuan Wyn Jones yn arweinydd ar y blaid.

Collodd Plaid Cymru bedair sedd, gan gynnwys etholaethau Llanelli – sedd y Dirprwy Arweinydd, Helen Mary Jones – ac Aberconwy yn y gogledd.

Heddiw fe fuodd ACau y Blaid yn cwrdd yn ffurfiol am y tro cyntaf ers yr etholiad ddydd Iau.

Yn dilyn y cyfarfod y tu ôl i ddrysau caeedig, dywedodd yr AC Simon Thomas, sy’n cynrychioli’r blaid ar restr ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, fod y cyfarfod wedi bod yn un adeiladol.

“Dyw’r dyfalu yn y cyfryngau ynglŷn â dyfodol Ieuan Wyn Jones ddim yn adlewyrchu’r teimlad o fewn y blaid,” meddai.

“Yr unig blaid sy’n chwilio am arweinydd newydd yw’r Ceidwadwyr. Dydyn ni ddim yn mynd i gael arweinydd newydd yn y dyfodol agos.”

‘Gwaith da i’w wneud’

Dywedodd un o ACau newydd eraill y blaid, Lindsay Whittle, ei fod wedi mwynhau ei ddiwrnod cyntaf yn y Cynulliad.

Fe fydd yn gadael ei swydd yn arweinydd cyngor Caerffili o fewn yr wythnosau nesaf ac yn gobeithio tynnu sylw at y diffyg tai o safon sydd ar gael yng Nghymru.

“Ges i fy magu ar stad cyngor ac rydw i’n siomedig nad ydi fy rheini yn fyw i fy ngweld i’n cael fy ethol,” meddai.

‘Digon i’w wneud’

“Mae yna ddigon i’w wneud ac rydw i’n edrych ymlaen at gael gwasanaethu pobol Cymru. Mae angen sylw dybryd ar safon tai yng Nghymru.

“Mae’n braf iawn cael adeiladu ysbytai newydd sbon danlli ond does dim pwynt anfon yr henoed yn ôl i dai sy’n llawn tamprwydd.

“Rydw i’n gyn-reolwr tai ac mae hyn yn fater yr ydw i eisiau canolbwyntio arno.”