Gavin Henson
Mae Gavin Henson wedi ei ddewis yng ngharfan 26 dyn Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm y Mileniwm mis nesaf.

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi dewis Henson er i’r canolwr gael ei wahardd gan ei glwb Toulon am wythnos yn dilyn ffrae gyda rhai o’i gyd-chwaraewyr.

Fe ddychwelodd Henson i’r garfan dros y penwythnos gan chwarae yng ngêm olaf Toulon o’r tymor yn erbyn Montpellier.

Mae Gavin Henson heb chwarae i Gymru ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2009.

Ond does dim lle i Andy Powell yn y garfan ar ôl iddo adael ei glwb Wasps yr wythnos diwethaf.

Roedd Wasps wedi bod yn ymchwilio i ddigwyddiad mewn tafarn ar ôl i’r Cymro ddioddef anaf i’w ben.

Mae Warren Gatland wedi dewis pum chwaraewr heb yr un cap i’w henw gyda blaenasgellwr y Gleision, Sam Warburton, yn gapten.

Fe fydd Warburton yn arwain y tîm yn absenoldeb Matthew Rees sy’n cael ei orffwys.

Mae Lloyd Burns a Toby Faletau o’r Dreigiau wedi cael eu cynnwys tra bod clo’r Scarlets, Lou Reed, y canolwr Scott Williams a phrop y Gweilch, Ryan Bevington, hefyd yn y garfan.

Mae disgwyl i faswr y Scarlets, Stephen Jones, ennill ei 100fed cap i Gymru yn erbyn y Barbariaid.

“R’yn ni wedi dewis rhai chwaraewyr ifanc a chyffrous ac mae’n gyfle iddynt ddangos ei doniau,” meddai Warren Gatland.

“Mae’n gyfle gwych i ni edrych ar rai chwaraewyr sydd wedi bod yn chwarae’n dda dros yr wythnosau diweddaraf. Mae’n gyfnod cyffrous i’r garfan wrth i Gwpan y Byd agosáu.”

Carfan Cymru

Blaenwyr-  Paul James (Gweilch), John Yapp (Gleision ), Ryan Bevington (Gweilch), Scott Andrews (Gleision), Huw Bennett (Gweilch), Richard Hibbard (Gweilch), Lloyd Burns (Dreigiau ), Alun-Wyn Jones (Gweilch), Ryan Jones (Gweilch), Luke Charteris (Dreigiau), Lou Reed (Scarlets), Dan Lydiate (Dreigiau ), Toby Faletau (Dreigiau ), Josh Turnbull (Scarlets), Sam Warburton (Gleision).

Cefnwyr- Morgan Stoddart (Scarlets), George North (Scarlets), Aled Brew (Dreigiau ), Shane Williams (Gweilch), Jon Davies (Scarlets), Scott Williams (Scarlets), Gavin Henson (Toulon), Stephen Jones (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Mike Phillips (Gweilch), Tavis Knoyle (Scarlets).