Dylan Iorwerth

Dylan Iorwerth sy’n holi beth fydd yn digwydd nesaf ar ôl i Lafur fethu ag ennill mwyafrif yn yr etholiad ddydd Iau…

Ar ôl yr atebion, dyma’r cwestiynau.

Llafur + 1?

A fydd Llafur yn mentro ar eu phen ei hun? Petaech chi’n AC Llafur, beth fyddai eich teimlad chi?

Mae clymblaid yn golygu llai o swyddi i ACau Llafur ond, os oes rhaid cael un, gorau po leia’ ydi’r blaid arall. Efallai y byddai swydd Dirprwy Brif Weinidog heb bortffolio’n ddigon i brynu’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond does dim rhaid cael clymblaid. Mi fyddai modd cael cytundeb plaid (neu bleidiau eraill) i raglen o ddeddfau efo lle i un neu ddwy o’u ffefrynnau nhw a chyfle i wneud gwelliannau ymlaen llaw.

Mae’n hawdd dychmygu y byddai Ed Miliband yn hapus iawn i weld Llafur yng Nghymru’n cynghreirio gyda’r Dem Rhydd, er mwy gwthio wejan i’r hollt yn y glymblaid yn Lludndain.

Ond faint o ddylanwad fydd gan Nick Clegg? A beth petaech chi’n AC Dem Rhydd? O gofio’r gosb am glymbleidio yn San Steffan, a fyddech chi eisiau’r un profiad yng Nghymru?

Y Ceidwadwyr?

Y syniad diweddara’ yw cytundeb gyda’r Ceidwadwyr tros swyddi Llywydd ac Is-lywydd. Mi fyddai rhoi’r rheiny i’r Toriaid yn rhoi mwyafrif o ddwy bleidlais i Lafur.

Ond mi fyddai hynny hefyd yn golygu cael eu cyhuddo trwy’r amser o ddibynnu ar blaid David Cameron i gael llywodraethu.

Y gosb

Pam fod y Ceidwadwyr wedi elwa a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli am wneud yr un peth? Am fod y Ceidwadwyr yn cael eu gweld yn dilyn eu haddewidion a’r Democratiaid yn eu torri.

Pam fod Llafur wedi ennill yma a cholli yn yr Alban? Yr hyn sy’n rhyfedd ydi bod canran pleidlais etholaethau’r blaid Lafur yn yr Alban wedi cynnal ond ei bod wedi colli tuag 20 ohonyn nhw. Alex Salmond a’r SNP a gafodd eu gweld yn brif wrthwynebiad i’r Ceidwadwyr ac yn gartre’ i Ryddfrydwyr anhapus.

Mae gwleidyddiaeth y ddwy wlad yn wahanol ond, yng Nghymru, gan Lafur yr oedd y neges gliria’ a’r arweinydd mwya’ poblogaidd.

Cyn arweinydd

A fydd Ieuan Wyn Jones yn rhoi’r gorau i fod yn arweinydd Plaid Cymru? Bydd. Ond nid ar unwaith.

Y gred gyffredinol ydi y bydd yn dewis mynd ei hun ar ôl cyfnod parchus. Mae’n ymddangos wedi blino ar ôl blynyddoedd caled yn arwain plaid, yn cynnal clymblaid ac yn gofalu am un o’r portffolios anodda’.

Ond fydd yna ddim helfa … heblaw gan ambell un sydd ag asgwrn a sigârs i’w crafu. Mae llawer o fewn y Blaid yn credu mai IWJ oedd y dyn i drafod creu clymblaid, ond nad y fo yw’r boi i ymladd mewn gwrthblaid.

Pwy ddaw yn ei le? Pwy sy’n gymwys ac yn debygol … Elin Jones, Alun Ffred (petai eisio), Simon Thomas neu Jocelyn Davies yn arweinydd di-Gymraeg cynta’?

Be ydi’r neges fawr i Lafur?

Er gwaetha’i llwyddiant yng Nghymru a’i llwyddiant cymharol yn Lloegr, mae gan Lafur gymaint o broblemau â neb (wel, heblaw’r Democratiaid Rhyddfrydol).

Fe fyddai Alban annibynnol – neu un sy’n pleidleisio tros yr SNP mewn etholiad Prydeinig – yn tanseilio Llafur yn San Steffan ac yn rhoi rhwydd hynt i’r Ceidwadwyr yno.

Mi fyddai yna oblygiadau mawr i Lafur Cymru o hynny ac efallai bod rhaid iddi hithau ddechrau edrych y tu hwnt i ganlyniad 5 Mai ac ystyried beth fyddai ei rôl yng Nghymru heb gryfdern y blaid Lundeinig.

Mae’r Ceidwadwyr hefyd eisiau gweld Cymru’n cael hawliau trethu … mae Llafur yn llwyr yn erbyn.

Pwy fydd yr arweinydd Ceidwadol yng Nghymru?

Os bydd hi’n sefyll, punt ar Angela Burns i ddilyn yr Arglwydd Bourne. Hynny, wrth gwrs, os na fydd hi’n Llywydd (gweler uchod).

Yr ysgall yn pigo Cymru?

Beth fydd effaith y canlyniadau yn yr Alban ar Gymru?

Mae’n dibynnu beth mae’r Ceidwadwyr eisio. Cadw’r Undeb, fel y dywedodd Cameron yn gyhoeddus, neu gael gwared ar yr Alban? Y cynllun cyn hyn, siŵr o fod oedd rhoi digon o rym i Gaeredin, i danseilio dylanwad yr Alban yn Llundain.

Asghar-u

Roedd yr etholiad i’r rhestrau’n wahanol y tro yma. Doedd yr ymgeiswyr ddim yn cael eu rhestru. Felly, be sy’n digwydd os bydd rhywun yn ‘gwneud Mohammad Asghar’ ac yn croesi llawr y Senedd.

Yn ôl y drefn fel yr oedd hi, roedd yr AC yn cadw’r sedd. Roedd hyn yn annheg bryd hynny; mae’n fwy annheg fyth bellach ac yn groes i hawliau dynol y sawl sy’n pleidleisio tros blaid.

Mae’r ymholiadau cynta’ efo’r Cynulliad yn awgrymu y bydd y gyfraith yn dweud yr un peth ag o’r blaen – mi fydd y sedd yn dilyn yr aelod. Os felly, mae angen newid y gyfraith.