Senedd Cymru
Mae Aelodau Cynulliad newydd wedi dechrau eu diwrnod cyntaf llawn ym Mae Caerdydd.

Dechreuodd y diwrnod gyda siwrnai o amgylch syddfeydd y Cynulliad a’r Siambr ei hun.

Mae gan y 23 Aelod Cynulliad newydd wythnos brysur o’u blaenau nhw. Bydd rhaid dewis Llywydd a Dirprwy Lywydd ac yna ethol Prif Weinidog ar Gymru.

Yn ogystal â dod i nabod swyddfeydd y Cynulliad yn Nhŷ Hywel ac adeilad y Senedd, mae gan ACau becyn croeso 14 tudalen i’w ddarllen.

Fe fyddwn nhw hefyd yn mynd i gyfarfod am y Siambr, a fydd yn eu cynghori nhw ynglŷn â sut i gymryd rhan mewn cyfarfodydd llawn, ac arferion da ymysg ACau.

Yn ogystal â hynny fe fydd yna sesiwn 40 munud ar gostau Aelodau Cynulliad, a darlith am weithdrefn diogelwch y Cynulliad.

Dyw hi ddim yn eglur eto a fydd Llafur yn llywodraethu ar ei phen ei hun yntau yn clymbleidio â Phlaid Cymru neu’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae gan y Blaid Lafur hanner y seddi yn y Cynulliad – digon i atal y pleidiau eraill rhag ffurfio clymblaid enfys, ond fe allai llywodraethu fod yn anodd.

Yn swyddogol mae’r Blaid Lafur yn “cadw meddwl agored”. Mae ganddyn nhw dri opsiwn – llywodraethu ar eu pennau eu hunain, clymblaid swyddogol, neu gytundeb answyddogol gydag un o’r pleidiau eraill.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, wedi awgrymu eu bod nhw’n barod i gyd-lywodraethu.

Ond fe fyddai clymbleidio â’r Dems Rhydd yn ei gwneud hi’n anoddach i’r Blaid Lafur feirniadu’r glymblaid yn San Steffan, sydd hefyd yn cynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae yna aelodau o Blaid Cymru sy’n dadlau’r naill ffordd a’r llall, o blaid ac yn erbyn clymbleidio gyda Llafur fel y gwnaethon nhw yn 2007.

Dywedodd y cyn Aelod Seneddol, Cynog Dafis, heddiw y dylai Plaid Cymru ystyried clymbleidio eto, er lles y wlad yn hytrach na lles y blaid.

Serch hynny mae’r Aelod Cynulliad Rhodri Glyn Thomas a’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards wedi awgrymu nad oes archwaeth am glymblaid arall o fewn y blaid.

Yr ACau newydd:

ACau Etholaethau

Ken Skates, Llafur, De Clwyd

Janet Finch-Saunders, Ceidwadwyr, Aberconwy

Russell George, Ceidwadwyr, Sir Drefaldwyn

Michael Hedges, Llafur, Dwyrain Abertawe

Julie James, Llafur, Gorllewin Abertawe

Keith Davies, Llafur, Llanelli

Mick Antoniw, Llafur, Pontypridd

David Rees, Llafur, Aberafan

Gwyn Price, Llafur, Islwyn

Vaughan Gething, Llafur, De Caerdydd a Phenarth

Julie Morgan, Llafur, Gogledd Caerdydd

Jenny Rathbone, Llafur, Canol Caerdydd

Mark Drakeford, Llafur, Gorllewin Caerdydd

ACau Rhanbarthol

Llyr Huws Griffiths, Plaid Cymru, Gogledd Cymru

Aled Roberts, Dems Rhydd, Gogledd Cymru

Antoinette Sandbach, Ceidwadwyr, Gogledd Cymru

Simon Thomas, Plaid Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru

William Powell, Dems Rhydd, Canolbarth a Gorllewin Cymru

Rebecca Evans, Llafur, Canolbarth a Gorllewin Cymru

Byron Davies, Ceidwadwyr, Gorllewin De Cymru

Suzy Davies, Ceidwadwyr, Gorllewin De Cymru

John Dixon, Dems Rhydd, Canol De Cymru

Lindsay Whittle, Plaid Cymru, Dwyrain De Cymru