Paul Davies AC
Mae arweinydd dros dro’r Ceidwadwyr Cymreig, yr AC Paul Davies, wedi cadarnhau na fydd yn ymgeisio am y swydd yn llawn amser.

Cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig ddydd Sadwrn eu bod nhw wedi penodi’r Aelod Cynulliad Paul Davies yn arweinydd dros dro, ar ôl i Nick Bourne golli ei sedd yn yr etholiad ddydd Iau.

Ef oedd yr unig un i roi ei enw ymlaen mewn cyfarfod oedd yn cynnwys Aelodau Cynulliad a Bwrdd Rheoli’r blaid.

Collodd Nick Bourne ei sedd ar restr ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ar ôl i’w blaid lwyddo i gipio Sir Drefaldwyn.

Fe fydd y blaid yn dechrau ar y broses o benodi arweinydd parhaol ddydd Mercher. Bydd cyfle i aelodau’r blaid yng Nghymru bleidleisio, os oes mwy nag un ymgeisydd, meddai Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.

Mae disgwyl cyhoeddiad terfynol ym mis Gorffennaf.

Ymysg yr ymgeiswyr posib ar gyfer y swydd llawn amser mae Darren Millar, Andrew RT Davies, a Nick Ramsay. Yr olaf yw’r unig un i gadarnhau y bydd yn sefyll.

Dywedodd Paul Davies, yr Aelod Cynulliad dros Breseli Penfro, mai ei unig nod oedd cadw’r sedd yn gynnes nes i’w blaid ethol olynydd.