Ymchwiliad - Dafydd Elis-Thomas
Fe ddylai un o bwyllgorau’r Cynulliad gynnal ymchwiliad i’r ffordd y cafodd yr etholiad ei gynnal yr wythnos ddiwetha’.

Yn ôl y ffefryn i fod yn Llywydd nesa’r corff, Dafydd Elis-Thomas, mae’n teimlo’n gry’ bod angen edrych eto ar y drefn ac, yn arbennig, ar benderfyniad etholaethau’r Gogledd i gyfri’n hwyrach na phawb arall.
“Roedd hon yn enghraifft o swyddogion cyhoeddus yn penderfynu’n gwbl groes i farn gwleidyddion etholedig,” meddai AC Dwyfor Meirion, sydd wedi bod yn Llywydd ar y Cynulliad o’r dechrau yn 1999.

Roedd yn pwysleisio mai barn bersonol oedd hon ond roedd yn credu y dylai’r pwyllgor sy’n delio â’r cyfansoddiad fod yn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd ac yn gwneud argymhellion.

Y diwrnod wedyn

Tra bod holl etholaethau’r De a’r Canolbarth wedi cyfri tros nos, gan ddechrau nos Iau, roedd etholaethau’r Gogledd wedi gadael y cyfri tan ddydd Gwener.

Ond roedd yna feirniadu hefyd am yr amser a gymerodd y cyfri, gydag un rhanbarth yn cymryd bron 12 awr i gyhoeddi canlyniadau’r seddi rhestr.

Fe fydd Llywydd y Cynulliad yn cael ei ddewis yr wythnos hon; mae Dafydd Elis-Thomas yn awyddus i gymryd y swydd.