Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn ar amheuaeth o fod â thabledi ecsasi yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u cyflenwi.

Mewn cyrch y mis diwethaf, cafodd heddlu o Gil-y-coed hyd i 150 o dabledi o’r hyn sy’n cael ei amau i fod yn ecstasi. Roedd y cyrch yn rhan o gynllun ehangach i fynd i’r afael â gweithgarwch cyffuriau anghyfreithlon yn yr ardal.

Fe aeth yr heddlu i’r afael â’r sefyllfa ar ôl pryderon gan bobl yn y gymuned leol.