Siambr y Senedd
Yr arbenigwr ar etholiadau Cymru a golygydd ‘The Welsh Yearbook’, Denis Balsom sy’n darogan rhai o ganlyniadau mwyaf diddorol Etholiad Cynulliad 2011…

Ymddangosodd yr erthygl yma yng Nghylchgrawn Golwg, 5 Mai.

Gogledd Cymru – Etholaethau Alun a Glannau Dyfrdwy, Arfon, De Clwyd, Gorllewin Clwyd, Aberconwy, Delyn, Dyffryn Clwyd, Wrecsam, Ynys Môn.

Hwn yw’r rhanbarth mwyaf gyda naw etholaeth. Mae’r rhanbarth daearyddol eang yn cynnwys ardaloedd diwydiannol Alun a Glannau Dyfrdwy ac ardaloedd mwy gwledig  Arfon. Mae’r iaith Gymraeg yn dal yn gryf mewn rhannau a thwristiaeth yn bwysig ar yr arfordir. Mae canran uchel o bobol  wedi ymddeol i’r ardal o Ogledd Lloegr.

Dyw gogledd ddwyrain y rhanbarth ddim wedi croesawu datganoli yn y gorffennol ond mae’r gorllewin wedi bod yn gadarnle i Blaid Cymru. Mae’r economi yn bwnc poeth yn etholaeth Ynys Môn ar ôl cau Alwminiwm Môn a Dyffryn Clwyd lle mae yna ardaloedd difreintiedig.

Darogan Denis Balsom

“Fe ddylai Llafur ddal gafael ar eu seddi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru lle mae ganddynt fwyafrif bychan ar hyn o bryd.

“Yn Aberconwy mae’n ymddangos mai cystadleuaeth rhwng Plaid Cymru a’r Torïaid fydd hon.

“Fe allai Gorllewin Clwyd newid dwylo os ydi’r polau piniwn yn gywir a bod swing o tua 8% i’r blaid Lafur. Mae’n rhaid iddi sefydlu ei hun yn rhywle.”

Canolbarth a Gorllewin Cymru – Etholaethau Brycheiniog a Maesyfed, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Ceredigion, Llanelli,  Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn, Preseli Penfro.

Hwn yw un o’r rhanbarthau anoddaf i broffwydo’r canlyniadau gyda’r pedair prif blaid wedi llwyddo i gael seddi ychwanegol yn yr ardal ers 1999. Mae nifer o ardaloedd gwledig yma er bod Llanelli yn dref ddiwydiannol. Mae twristiaeth yn bwysig yn nifer yn etholaeth Preseli Penfro a llawer yn ennill bywoliaeth trwy ffermio. Mae canran uchel o fyfyrwyr yng Ngheredigion sydd yn golygu bod ffioedd dysgu yn bwnc llosg. Ad-drefnu addysg, datblygu’r economi wledig a’r diciâu yw rhai o’r materion eraill sy’n destun trafod brwd ymysg yr etholwyr.

Darogan Denis Balsom

“O’r hyn dw i’n ei glywed fe wneith y Torïaid ennill yn Maldwyn. Mae Glyn Davies yr Aelod Seneddol wedi bod yn weledol o gwmpas yr ardal yn helpu gyda’r ymgyrch.

“Mae sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn sedd agos iawn, iawn ac mae Llafur yn optimistaidd. Ond mae Nerys Evans (Plaid Cymru) yn berson sydd â phroffil uchel ac Angela Burns wedi bod yn Aelod Cynulliad (Ceidwadol) oedd yn cael ei pharchu. Yr argraff dw i’n ei gael gyda’r Ceidwadwyr ydi eu bod nhw’n derbyn y byddan nhw yn colli.

“Yn etholaeth Brycheiniog a Maesyfed mae’n debyg bod Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol) yn cael amser anodd yno ac os bydd y Torïaid yn cipio Brycheiniog a/neu Maldwyn fe allai Nick Bourne golli ei sedd ar y rhestr rhanbarth.

“Sedd dynn arall yw Llanelli. Mae Llafur wedi penderfynu ar ymgeisydd sydd yn gynghorydd a ddim y math o ymgeisydd fydde rhywun yn disgwyl yn erbyn Helen Mary Jones. Fe ddyle Helen Mary Jones (Plaid Cymru) ddal ei gafael.

“Dw i ddim yn meddwl fod Ceredigion yn sedd agos. Mae Elizabeth Evans (Democratiaid Rhyddfrydol) yn weddol adnabyddus mewn rhai ardaloedd yn yr etholaeth ond does ganddi ddim y proffil sydd gan Elin Jones (Plaid Cymru).”

Canol De Cymru – Etholaethau Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, Cwm Cynon, Pontypridd, Rhondda, Bro Morgannwg.

Mae’r rhanbarth yn cynnwys prif ddinas Cymru ac ardaloedd yr hen ddiwydiannau trwm. Mae yna gyfoeth yma gyda nifer yn gweithio i’r sector gyhoeddus yn enwedig yng Ngogledd Caerdydd sydd â’r nifer uchaf o weithwyr coler wen ym Mhrydain. Ond mae diweithdra yn broblem yn rhai o’r etholaethau. Gyda nifer o wleidyddion yn ymddeol fe fydd na wynebau newydd yn cynrychioli etholwyr yma. Mae cysylltiadau trafnidiaeth a sicrhau swyddi sector gyhoeddus yn faterion pwysig yn y rhanbarth.

Darogan Denis Balsom

“Fe ddyle’r Democratiaid Rhyddfrydol ddal gafael ar Ganol Caerdydd er bod Jenny Randerson yn rhoi’r gorau iddi.

“Yng Ngogledd Caerdydd mae’n amlwg bod Julie Morgan (Llafur) yn ymgeisydd mae pobol yn ei hoffi ond mae’n ymddangos bod Jonathan Morgan (Ceidwadwr) wedi gwneud job dda. Mae’n dibynnu faint o bleidleisiau y bydd Llafur yn medru dwyn gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Mae honna yn mynd i fod yn frwydr agos.

“Mae’r Gwyrddion yn optimistaidd ar y rhestr yng Nghanol De Cymru. Ond bydd angen iddyn nhw gael tua 10,000 o bleidleisiau.

“Mae Bro Morgannwg yn sedd ymylol ond gyda’r swing cyffredinol tuag at Lafur fe ddylai Jane Hutt fod yn saff.”

Dwyrain De Cymru – Etholaethau Blaenau Gwent, Caerffili, Islwyn, Merthyr Tudful a Rhymni, Mynwy, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, Torfaen.

Mae hwn yn rhanbarth lle mae’r blaid Lafur yn teyrnasu a nifer o’r cymoedd yn driw i Lafur. Ardal lle’r oedd nifer yn gweithio yn y diwydiannau trwm yw hon ac mae’n cynnwys Merthyr Tudful sydd yn dref dlawd. Mae nifer bellach yn gweithio yn y sector gyhoeddus a Mynwy yn denu twristiaid i’r ardal. Fe gipiodd Trish Law sedd Blaenau Gwent fel ymgeisydd annibynnol ond mae hi yn rhoi’r gorau iddi cyn yr etholiadau y tro hwn. Adfywio’r economi a diweithdra yw rhai o’r pynciau llosg yma.

Darogan Denis Balsom

“Mae disgwyl i Alun Davies gymryd Blaenau Gwent yn ôl dros Lafur.

“Mi oedd yna sôn yn y gorffennol y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn fygythiad i Gasnewydd ond mae hynny wedi pasio erbyn hyn.

Sut y bydd Ron Davies yn gwneud yng Nghaerffili? Mae pobol yn dweud bod Llafur yn weddol hyderus yno. Fe bleidleisiodd pobol drosto fel ymgeisydd annibynnol ond a fydd pobol yn fodlon pleidleisio iddo fel ymgeisydd Plaid Cymru y tro hwn? Dw i ddim yn siŵr.”

Gorllewin De Cymru – Etholaethau Aberafan, Pen-y-bont, Gwyr, Castell Nedd, Ogwr, Dwyrain Abertawe, Gorllewin Abertawe.

Rhanbarth sy’n gyfuniad o’r wlad a’r dref a gweddillion hen ddiwydiannau trwm a rhai newydd uwch-dechnoleg. Mae’n cynnwys ardaloedd trefol sylweddol Abertawe, Castell Nedd a Phort Talbot ond mae yna ardaloedd mwy gwledig yma hefyd fel Gŵyr. Mae yna nifer yn byw yn yr ardal sydd yn teithio ar yr M4 i’w gwaith. Un arall o gadarnleoedd Llafur o ran etholaethau ble maen nhw wedi ennill pob sedd ers 1999. Sicrhau swyddi a ffioedd dysgu yw rhai o’r materion sydd yn bwysig i bobol sy’n byw yn y rhanbarth.

Darogan Denis Balsom

“Mae hwn yn rhanbarth lle mae calon pleidleiswyr Llafur. Weithiau mae pobol yn dweud y gallai Gwyr fynd at y Ceidwadwyr ac mi fydd yna aelod Torïaidd newydd yn lle Alun Cairns. Dw i’n disgwyl y bydd y seddi rhanbarth yn aros yr un peth.”