Senedd Cymru
Erthygl o Gylchgrawn Golwg, 5 Mai, gan Anna Glyn…

Yn ôl arbenigwr ar etholiadau Cymru, dyw’r etholiad eleni ddim wedi bod yn un mor gynhyrfus am fod Cymru wedi ei rheoli gan lywodraeth glymblaid am y pedair blynedd diwethaf.

Yn ôl Denis Balsom mae’n golygu ei bod wedi bod yn anodd i’r pleidiau frwydro ar wahân.

Mae hefyd yn dweud bod cynnal y Refferendwm ar newid y ffordd y mae ethol Aelodau Seneddol yn cael eu hethol i San Steffan yn mynd i ddylanwadu ar ganlyniad yr Etholiad i’r Cynulliad eleni.

“Wrth i’r cyfnod ymgyrchu ddechrau mi oedden ni yn disgwyl ding-dong ond doeddwn i ddim yn siŵr sut y byddai’r peth yn gweithio.” meddai golygydd ‘The Welsh Yearbook’ sy’n ystyried yr etholiad yn wahanol i’r gorffennol.

“Mae yna fwy o impact gwleidyddiaeth gyffredinol Prydain. Mae’r bleidlais AV ar yr un diwrnod sydd yn ddigwyddiad Prydeinig, yn hytrach nag etholiad unigryw Cymreig.”

Yn ôl Denis Balsom, bydd y bleidlais AV yn cael effaith ar etholiad y Cynulliad. “Fe fydd yna rai pobol yn mynd i bleidleisio ar gyfer yr AV ond pan fyddan nhw yn y blwch pleidleisio fe fyddan nhw yn bwrw pleidlais ar gyfer yr etholiadau hefyd. Fe allai hyn gael effaith yng Ngogledd Cymru ac mewn etholaeth fel Aberconwy.”

Rhagweld llywodraeth glymblaid newydd?

Yn ôl Denis Balsom, mae gobeithion Llafur o ennill mwyafrif yn dibynnu ar faint fydd yn bwrw pleidlais dydd Iau. Er bod y polau piniwn yn dangos symudiad tuag at y blaid Lafur, y cwestiwn yw lle y bydd hynny yn dod i’r amlwg.

“Mae angen i Lafur ennill seddi ac mae’n anodd gweld ble y byddan nhw yn ennill seddi newydd. Mae cyrraedd 30 o seddi yn mynd i fod yn anodd iawn iddyn nhw,” meddai. “Os cân nhw 29 sedd efallai y gwneith Carwyn Jones benderfynu y dylai Llafur lywodraethu ar ei phen ei hun a chael llywodraeth leiafrifol.

“Os caiff y Blaid Werdd un sedd efallai byddai’n bosib iddyn nhw daro bargen gyda nhw.”

Fe fyddai’n rhaid i Lafur gynnal trafodaethau ffurfiol os byddan nhw’n cael llai na 29 sedd ym marn Denis Balsom, a byddai clymblaid enfys yn bosibilrwydd os na fydd Llafur yn cael mwy na 26 sedd. “Byddai hyn yn bosib os oes yna barodrwydd i wneud hynny. Ond mae’n debygol na fydd Kirsty Williams yn awyddus i gyd-weithio efo’r Toriaid.”