Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Erthygl o Gylchgrawn Golwg, 5 Mai, gan Anna Glyn…

Mae un o’r sylwebwyr gwleidyddol mwyaf profiadol Cymru wedi darogan y caiff Llafur “uffarn o job” i gael mwyafrif yn etholiadau’r Cynulliad heddiw.

“29 o seddi  ar y gorau” o’r 60 o sydd ar gael aiff i Lafur, yn ôl y proffwyd gwleidyddol Gareth Hughes.

Ond er y byddan nhw’n methu sicrhau mwyafrif, meddai, mae’n credu i Lafur ddefnyddio’r tactegau iawn yn ystod yr ymgyrchu.

“Fel plaid maen nhw wedi chwarae hi yn gall. Dydyn nhw ddim wedi gwneud yn wych gydag addysg na iechyd. Ond y big bonus iddyn nhw ydy does yna ddim llywodraeth Lafur yn San Steffan. Ac mae clymblaid San Steffan wedi gwneud uffarn o lanast i economi Cymru efo’r toriadau ac mae pobol yn pryderu am hynny.”

Er bod y polau piniwn diweddar yn dangos bod Llafur ymhell ar y blaen, mae Gareth Hughes yn rhybuddio nad ydyn nhw’n absoliwt.

“Polau cenedlaethol ydy nhw ond allwch chi ddim trosglwyddo hynny i seddi achos mae pob sedd mewn un ystyr yn etholiad drosto’i hun,” meddai.

Mae’n dweud fod y pleidiau yn rhoi mwy o egni i’r seddi ymylol a bod Llafur wedi defnyddio tactegau pwrpasol i drio ennill pleidleisiau. “Mae hi’n arwyddocaol bod big hitters Llafur o Lundain wedi dod i etholaethau fel Gogledd Caerdydd, Canol Caerdydd a Llanelli.”

Llanelli: gweld gobaith i Lafur

Yn ôl Gareth Hughes mae’n bosib i Lafur gipio sedd Helen Mary Jones yn Llanelli.

“Mi wnaeth Llafur lansio ei hymgyrch yno. Mi oedd arweinydd yr wrth-blaid yn San Steffan yno ac maen nhw yn gwneud ymdrech yno. Ydy’r llanw yn ddigon i danseilio ymgeisydd poblogaidd gref? Ydy, o drwch blewyn.”

Sedd arall mae’n credu fydd yn agos ydi Gogledd Caerdydd. “Mae Julie Morgan wedi bod yn hynod o boblogaidd. Mi oedd hi yn gwneud lot fel Aelod Seneddol i’w hetholwyr. Mi oedd hi’n agos iawn y tro diwetha’ pan oedd y llanw yn erbyn Llafur a gyda’r llanw tro yma o blaid Llafur, wel mae ganddi siawns dda o ennill y sedd.”

Dydi’r proffwyd ddim yn teimlo y bydd newid awennau yn digwydd yng Nghaerffili, er fod Ron Davies yn sefyll dros Blaid Cymru yno. “Y cwestiwn ydi: Ydy Llafur wedi gwneud digon i golli’r sedd yng Nghaerffili? Naddo.”

Ond mae’n credu fod Plaid Cymru wedi cael hwb ar ôl i’r Aelod Seneddol Llafur, Wayne David, gyfaddef iddo dynnu posteri’r Blaid i lawr. “Dyw etholwyr ddim yn licio triciau budr,” meddai Gareth Hughes.

Ond dyw e ddim yn fodlon darogan pwy fydd yn fuddugol yng Nghorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ond mae’n dweud fod yna “bob arwydd bod y Tories yn mynd i golli”.

“Mae Llafur wedi dewis Christine Gwyther fel ymgeisydd er ei bod hi wedi colli’r sedd tro diwetha’. Dw i ddim yn meddwl bod ganddi lot o bersonoliaeth ond ella bod hi yn wahanol ar y stepan drws. Ond mae yna hen reol fod personoliaeth ddim yn rhoi mwy na 500 o bleidleisiau i’r ymgeisydd.”

Mae’n dweud fod Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn galed ac yn credu y bydd y canlyniad yn agos iawn.

Aberconwy: cyfle i’r cochion

Aberconwy yw un o’r seddi eraill mae Gareth Hughes yn dweud allai droi at Lafur. Mae’n credu bod ganddyn nhw ymgeisydd cryf ac yn cyfeirio at y ffaith i Lafur ddod yn ail yn yr Etholiad Cyffredinol Prydeinig y llynedd. Ond dydy o ddim yn hyderus y bydd y Blaid Lafur yn dwyn Canol Caerdydd oddi ar y Rhyddfrydwyr.

“Dw i ddim yn gweld y myfyrwyr yn mynd i bleidleisio, yn enwedig rhai o Loegr. A faint o gydymdeimlad sydd ganddyn nhw efo beth sydd yn digwydd yng Nghymru os ydyn nhw yn dod o Loegr?”

Felly ydy’r proffwyd yn rhagweld sioc yn ei wlad ei hun?

“Maen rhaid bod yna sioc yn rhywle. Mae’n digwydd ym mhob etholiad. Y cwestiwn ydy: Lle?”