Ymgyrch y bleidlais amgen
Heddiw mae Refferendwm yn cael ei chynnal sy’n gofyn a ddylid newid y ffordd y mae Aelodau Seneddol yn cael eu hethol…

Dyma ddau darn barn o Gylchgrawn Golwg, 5 Mai, yn rhoi’r safbwyntiau gwahanol…

NA

Mae’r Ceidwadwr Mark Isherwood ar frig rhestr rhanbarth y Gogledd yn etholiadau’r Cynulliad ac yn gwrthwynebu newid y drefn…

“Craidd fy ngwrthwynebiad i’r bleidlais amgen ydy ei fod yn annheg.

Efo’r drefn bresennol mae pawb yn cael un fôt.

Dan y drefn AV mae fôts cefnogwyr y pleidiau sy’n denu’r nifer isa’ o bleidleisiau, yn cael eu cyfrif nifer o weithiau, tra bod fôts y rhai sydd wedi pleidleisio dros y prif ymgeiswyr ond yn cael eu cyfrif unwaith.

O osod y drefn yna yng nghyd-destun yr Olympics, sut fasen ni’n teimlo petai’r boi wnaeth groesi’r linell derfyn gynta’ yn cael y trydydd safle ar y podiwm ac yn derbyn y fedal efydd, tra bod y boi ddaeth yn drydydd yn y safle cynta’ yn derbyn y fedal aur?

Yn fras mae hanner poblogaeth y byd yn defnyddio’r system bleidleisio sydd gennym ni ar hyn o bryd, sy’n gweithio ac yn deg.

Dros y byd i gyd dim ond tair gwlad sy’n defnyddio’r bleidlais amgen – Ffiji, Awstralia a Papua New Guinea.

Mewn pôl piniwn yn Awstralia wedi’r etholiad diwetha’, roedd 60% eisiau cael gwared ar y drefn amgen, ac mae Ffiji yn cynllunio i roi’r gorau i’r drefn AV.

Felly dim ond Papua New Guinea o holl wledydd y byd fyddai’n defnyddio AV, yn ogystal â Phrydain os wnân ni fotio o blaid hynny, drwy’r byd i gyd.

Mi fyddwn i’n awgrymu y dylai ein bod ni efo’r mwyafrif llethol o wledydd eraill y byd sy’n defnyddio’r system cyntaf i’r felin.

Os cewch chi etholiad lle mae un blaid yn teyrnasu, fel ddigwyddodd yn 1979 gyda’r Torïaid neu 1997 gyda Llafur, dan y drefn AV mi fyddai’n cynyddu mwyafrif y blaid boblogaidd ac yn creu llai o atebolrwydd, gan gynyddu mwyafrif y blaid mewn llywodraeth.”

Dylid

Mae Owain Llyr ap Gareth yn swyddog ymgyrchu Cymdiethas Newid Etholiadol Cymru sydd o blaid newid y drefn …

“Mae yna lot o gelwydd noeth wedi cael eu dweud am y gost o newid y system bleidleisio. Maen nhw’n dweud bod angen peiriannau cyfrif AV- mae hynny yn gelwydd noeth. Yr unig beth maen nhw yn defnyddio yn Awstralia ydi pensil!”

“Y feedback dw i’n derbyn ydi pan mae pobol yn dallt be ydi o, maen nhw yn gweld ei fod o’n syniad da. Ac maen nhw yn gweld bod o ddim yn system mor gymleth a be oedden nhw yn feddwl.

Os ydach chi yn gallu cyfri 1, 2, 3 fe fedrwch chi ei ddallt o. Fel y dywedodd Eddie Izzard yn ddiweddar mae o’n gwneud i chi boeni lle mae pobol yr ymgyrch ‘Na’ wedi mynd i’r ysgol!

Dyw’r system bresennol ddim yn gynrychioladwy. Mae gan ychydig o bleidleiswyr llawer fwy o ddweud na rhai eraill. Ac mi fyddai’n cael gwared ar bleidleisio tactegol.

Mae’r canlyniad yn agos a dw i’n gobeithio y bydd pobol yn mynd i bleidleisio.  Hwn ydi’r ail refferendwm sydd wedi digwydd trwy Brydain oll. Mae o yn big deal

Newid y drefn

Ar hyn o bryd mae pobol yn pleidleisio trwy ddefnyddio’r system ‘Cyntaf i’r Felin’. Mae hyn yn golygu bod pobol yn rhoi croes wrth ymyl yr ymgeisydd maen nhw am weld yn cael ei ethol.

Gyda’r system amgen, AV, fe fyddai’r pleidleiswyr yn rhifo yr ymgeiswyr gan ddweud rhif 1 ar gyfer ei ffefryn, rhif 2 fel ail ddewis a.y.y.b.

Mae’n bosib iddyn nhw rhifo faint bynnag o ymgeiswyr maen nhw eu heisiau.

Os nad oes unrhyw ymgeiswyr yn derbyn 50% neu fwy o’r pleidleisiau, mae’r rhai ar waelod y rhestr allan o’r ras. Mae’r pleidleisiau hynny yn cael eu hail ddosbarthu i’r ail ddewis ar y papur. Mae hyn yn parhau nes bod un ymgeisydd yn cyrraedd y trothwy o 50% o bleidleisiau.